Testun yn unig

Lleoliadau Gwaith i Gyflogwyr

Arbedwch amser ac arian gyda GO Wales

Mae GO Wales yn cynnig y cyfle i chi gyflogi rhywun â gradd (neu sy’n astudio ar gyfer gradd) i gwblhau prosiect tra’n gweithio i’ch cwmni am ryw 10 wythnos.

Anelir y lleoliadau at fusnesau bach a chanolig yn bennaf. Yn aml, nid yw’r amser na’r adnoddau gan fusnesau bach i ddatblygu syniadau a phrosiectau newydd. Weithiau, nid yw’r sgiliau angenrheidiol ganddynt i gwblhau tasg benodol. Trwy gynnal lleoliad, gallwch gael mynediad at y sgiliau ac elwa o frwdfrydedd myfyrwyr neu raddedigion.

Trwy gymryd rhan yn y cynllun, cewch:

  • Ddewis o fyfyrwyr a graddedigion safon uchel
  • Pobl â gwybodaeth a sgiliau penodol a all ychwanegu gwerth at eich busnes
  • Hyd at £90 yr wythnos tuag at y cyflog wythnosol, os oes busnes bach neu ganolig gyda chi
  • Prosiect 6-10 wythnos wedi’i gwblhau
  • Cyfle i weld a all y cwmni elwa’n barhaol o sgiliau graddedigion.

Rhoi nod tudalen gyda: