Testun yn unig

Y Manylion

Telerau ac Amodau

Byddai cwmni sy’n cynnal lleoliad yn cyflogi rhywun ar leoliad er mai am gyfnod cyfyngedig fyddai hynny. O ganlyniad, mae holl oblygiadau cyfreithiol cyflogaeth yn berthnasol. Gan mai GO Wales sydd wedi darparu’r gyflogaeth hon, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i sicrhau bod pob cwmni cynnal lleoliad yn bodloni isafswm y gofynion mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar y gweithle, fel Rheoliadau Iechyd a Diogelwch a Rheoliadau Amser Gweithio

Rhai cysylltiadau gwybodaeth am gyflogaeth

Arian

Sut y cawn ein hariannu a pham

Mae rhaglen GO Wales yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC). Cynllun yw GO Wales a gynlluniwyd i gadw pobl â sgiliau yng Nghymru ac i helpu busnesau lleol i gael mynediad at y sgiliau hyn ac elwa ohonynt.

Cyflog i’r Rhai Sydd ar Leoliad

Bydd disgwyl i chi dalu isafswm o £230 i’r sawl sydd ar leoliad gennych am wythnos waith arferol. Bydd cymhorthdal ychwanegol at hwn, hyd at £90 yr wythnos gan raglen GO Wales, os oes busnes bach neu ganolig gyda chi.

Fodd bynnag, dylech ystyried bod cyflog ac oriau’r sawl sydd ar leoliad o fewn cwmpas isafswm cyflog y DU a’r ddeddfwriaeth amser gweithio.

Trethi

Mae myfyrwyr yn rhwymedig i dalu cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol. Dylid delio ag Yswiriant Gwladol yn y ffordd arferol. Mae llawer o fyfyrwyr yn ennill llai na throthwy’r Dreth Incwm mewn blwyddyn, ac i gyfyngu ar fiwrocratiaeth, mae gan Cyllid y Wlad gynllun arbennig sy’n osgoi tynnu treth ac adennill nes ymlaen. Gall myfyrwyr roi ffurflen P38S i gyflogwr sy’n rhyddhau’r cyflogwr o ddyletswydd i dynnu Treth Incwm.

Mae graddedigion yn rhwymedig i dalu cyfraniadau Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol dan y rheolau arferol.

Ni thelir unrhyw gymhorthdal ychwanegol ar gyfer hyn.

Nid yw TAW yn daladwy ar y trafodiad cymhorthdal (mae penderfyniad gan y Tollau Tramor a Chartref i gefnogi hyn).

Cymhwyster

Mae lleoliadau GO Wales wedi’u hanelu at gwmnïau llai nad ydynt eisoes wedi elwa o sgiliau graddedigion.

I gymryd rhan mae’n rhaid i chi:

  • Fod yn gwmni annibynnol neu’n sefydliad sector gwirfoddol yng Nghymru sy’n cyflogi llai na 1,000 o bobl (gall cwmnïau sy’n cyflogi llai na 250 o bobl fod yn gymwys i gael cymhorthdal)
  • Peidio â bod yn chwilio am staff dros gyfnod gwyliau neu gyfnod mamolaeth yn unig

Rhoi nod tudalen gyda: