Mae GO Wales yn ei gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr a graddedigion ddatblygu eu gyrfaoedd yng Nghymru drwy brofiad gwaith o safon a chyfle i hyfforddi gyda busnesau. Mae’r prosiect yn cyfrannu’n sylweddol at ddatblygu economi wybodaeth Cymru; gall busnesau gael at sgiliau lefel uwch a syniadau newydd i gefnogi twf a datblygiad.
Rheolir y prosiect gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Gwasanaethau Gyrfa Prifysgolion Cymru sydd yn ei ddarparu.
Mae GO Wales yn derbyn arian gan Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Nod y prosiect fydd darparu hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i bron 6,741 o fyfyrwyr a’u paratoi ar gyfer eu darpar yrfaoedd yn ystod 2009-2014.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrosiect GO Wales cysylltwch â Marchnata GO Wales:
Alysha Morgan - a.l.morgan@swan.ac.uk
Crystal Evans - c.b.evans@swan.ac.uk