Mae GO Wales yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu polisïau a gweithdrefnau fydd yn sicrhau bod defnyddwyr ein gwasanaethau a darpar ddefnyddwyr ein gwasanaethau yn cael eu trin yn gydradd heb ystyried eu hoedran, anableddau, cenedligrwydd, ethnigrwydd neu darddiad cenedlaethol, statws priodasol, cefndir cymdeithasol, rhyw, rhywioldeb a/neu gred neu grefydd.
Ni fydd GO Wales yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon wrth ddewis ymgeiswyr ar gyfer ein rhaglen. Rydym yn ymdrechu i weithio gyda chyflogwyr sy’n gweithredu ymagwedd deg a chydradd i’r broses recriwtio, dewis a hyfforddi staff.
Mae monitro yn rhan hanfodol o’n polisi cyfle cyfartal, a gofynnwn i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth monitro oherwydd ei bod yn ein helpu ni i nodi gwahaniaethu posibl. Ariennir ein prosiectau yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n cynnwys cydraddoldeb fel un o’i themâu trawstoriadol, ac felly rydym yn rhannu gwybodaeth fonitro gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Mae’r wybodaeth hon yn anhysbys oni bai fod yr ymgeisydd yn rhoi caniatâd i ni rannu ei manylion personol gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
Rydym yn annog y gweithwyr rydym yn gweithio gyda nhw i fabwysiadu strategaeth gydraddoldeb ac amrywiaeth a system fonitro, os nad oes ganddynt un yn barod. Rydym yn gwneud hyn trwy gyflwyno cyflogwyr i ffynonellau gwybodaeth a chymorth priodol. Os oes eisoes ganddynt strategaeth gydraddoldeb ac amrywiaeth a system fonitro, rydym yn eu hannog i ystyried gwelliannau.
Rydym yn awyddus i gefnogi lleoliadau gwaith a hyfforddiant i raddedigion sy’n gweithio i gwmnïau bach a chanolig yng Nghymru sydd yn uniongyrchol berthnasol i weithredu gwelliannau ym maes strategaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth a systemau monitro.
Rydym yn ymdrechu i wneud ymgeiswyr GO Wales yn ymwybodol o bwysigrwydd cydraddoldeb a darparu gwybodaeth iddynt trwy ein deunyddiau cefnogi a’n digwyddiadau hyfforddi, megis rhaglenni ein Academi i Raddedigion a rhaglenni Llawrydd.