Mae GO Wales wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gyflawni ei waith cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Mae ein holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a dogfennau cofrestru ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Fodd bynnag, os ydym yn hysbysebu swydd ar ran cyflogwr, ein polisi yw cyhoeddi’r swydd fel y mae’n cael ei darparu i ni gan y cyflogwr, ac nid ydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu swyddi o’r Gymraeg i’r Saesneg ac fel arall. Os oes gan y cyflogwr bolisi i hysbysebu swyddi yn y Gymraeg a’r Saesneg, bydd GO Wales yn cyhoeddi’r swyddi’n ddwyieithog.