Mae Academi Gweithwyr Llawrydd GO Wales yn rhaglen 6 diwrnod AM DDIM a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
Cynlluniwyd y rhaglen unigryw hon i helpu gweithwyr llawrydd i ddatblygu’r sgiliau, gwybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnynt i symud eu syniadau busnes ymlaen.
Mae gweithiwr llawrydd yn rhywun hunangyflogedig sy’n gweithio mewn galwedigaeth neu grefft lle mae cyflogaeth amser llawn hefyd yn gyffredin; ni chânt eu cyflogi’n ond fel arfer cânt eu cyflogi er mwyn cwblhau aseiniadau penodol. Mae meysydd lle mae gweithio’n llawrydd yn arbennig o gyffredin yn cynnwys newyddiaduriaeth a ffurfiau eraill ar ysgrifennu, rhaglennu cyfrifiaduron a dylunio graffigol, ymgynghori, a llawer o wasanaethau proffesiynol a chreadigol eraill. Gall gweithwyr llawrydd weithio gartref, yn y gymuned, neu yn lle busnes eu cleient, a chan eu bod yn benaethiaid eu hunain, mae ganddynt y rhyddid i weithio’n weddol annibynnol.
Caiff y cwrs 6 diwrnod ei rannu, gyda thridiau ar ddiwedd un mis a’r tridiau olaf ar ddiwedd y mis canlynol. Caiff y cwrs ei gyflwyno gan ymgynghorwyr proffesiynol, hyfforddwyr a gweithwyr llawrydd profiadol.
Amlinelliad y cwrs:
Modiwlau
Darllenwch fwy am fodiwlau Academi’r Gweithwyr Llawrydd fan hyn.
Astudiaeth Achos:
Fe all gweithwyr llawrydd y dyfodol yn elwa o raglen newydd GO Wales...
I ddarganfod mwy am ddyddiadau a lleoliadau’r rhaglen a sut i wneud cais i Academi’r Gweithwyr Llawrydd, ewch i Tudalen wybodaeth Rhaglen a Cheisiadau yma >
Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at gowalesfreelancers@aber.ac.uk .