‘Rhagorol, rwyf wedi fy siomi ar yr ochr orau, diolch. Adeiladodd fy hyder, cynyddodd fy hunan-barch, gwellodd fy ngweledigaeth a rhoddodd sgiliau cyflwyno i mi. Helpodd gyda datblygiad proffesiynol parhaus a hefyd ychwanegodd at fy set o sgiliau. Mae creadigrwydd yn dod trwy syniadau a bu digonedd o’r rheiny!’
‘Cwrs rhagorol, Rwyf wir wedi ei fwynhau ac rwyf yn teimlo ysgogiadau ac ysbrydoliaeth i ddal ati gyda fy nghynllun busnes fy hun. Erbyn hyn rwyf yn teimlo bod gennyf fwy o wybodaeth i helpu fy musnes i lwyddo ac rwyf yn gobeithio y bydd datblygiadau yn y dyfodol yn profi hyn. Amser a ddengys. Yn raddol rwyf yn mynd yn fwy hyderus o ran fy sgiliau a’m medrau. Rwyf wedi sefydlu fy swyddfa ac rwyf yn barod i fynd ati’
‘Mae wedi fy helpu i ffurfio fy syniad busnes ac mae wedi fy ysgogi’n fwy byth wrth i mi ddilyn trywydd ymreolaeth a hunanwelliant yn ogystal ag am fy musnes fy hun.'
‘Mae wedi fy helpu i ddeall fy ngwerth a chredu yn fy mhris. Ac mae wedi dangos i mi nad wyf ar fy mhen fy hun. Mae wedi bod yn gyfle gwych i rwydweithio a byddaf yn sefydlu grŵp cymorth o’r rhai a oedd yn bresennol ar y cwrs. Ac mae gen i’r dylunydd graffigol gorau i adeiladu fy mrand’
‘Roeddwn yn ei weld yn ddefnyddiol sydd wedi helpu cynyddu fy hyder o ran yr hyn rwyf yn ei ddilyn ar gyfer fy nghynllun busnes’. Roedd yn bendant yn ddefnyddiol! Hyder ynglŷn â’m cynllun busnes - bydd yn gweithio; fy syniad i yw a chaf allan ohono'r hyn yr wyf yn ei roi i mewn.’