GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Academi Graddedigion

Grŵp o bobl Academi’r Graddedigion yn gwenu

Oes gradd gennych?
Nawr mynnwch swydd raddedig gyda chymorth yr Academi Graddedigion.

Rhaglen hyfforddiant am ddim yw Academi Graddedigion GO Wales sydd â’r nod o roi’r sgiliau a’r cymorth sydd eu hangen ar raddedigion diweddar i ennill gwaith cyflogedig. Mae cyflogwyr heddiw yn chwilio am dystiolaeth go iawn o’r sgiliau, galluoedd a dealltwriaeth o’r byd gwaith, yn seiliedig ar brofiad gwirioneddol a dysgu achrededig.

Mae manteision y rhaglen unigryw hon yn cynnwys:

  • Hyfforddiant am ddim i raddedigion sy’n byw yng Nghymru - gwerth hyd at £2,500.
  • Cyrsiau preswyl yn Llanbedr-pont -Steffan, Gorllewin Cymru, ynghyd â phrofiad gwaith ymarferol yn y lleoliad o’ch dewis yng Nghymru*.
  • Canolbwynt masnachol - enillwch sgiliau arwain a rheolaeth sylfaenol a gwybodaeth sy’n berthnasol i amgylcheddau gwaith go iawn.
  • Cyfle i gynyddu eich hyder a hunan-barch a’r sgiliau sydd eu hangen i farchnata eich hun i gyflogwyr.
  • Amgylchedd hyfforddi proffesiynol a threfnus.
  • Cymorth gan hyfforddwyr a thiwtoriaid sydd â phrofiad helaeth mewn diwydiant.
  • Cymhwyster a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) - sy’n cael ei gydnabod gan gyflogwyr ledled y byd.

*Academi ran amser ar gael ar gyfer graddedigion sy’n gweithio.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am yr Academi Graddedigion:

“Ni fyddwn wedi cael y profiad hwnnw heb gymorth GO Wales ac fe’m ysbrydolwyd i ddilyn yr yrfa roeddwn am ei chael. Gadewais y brifysgol â gradd ardderchog ond heb gyfeiriad a dim llawer o gefnogaeth. Hyd yn oed ar ôl i chi orffen yr Academi Graddedigion, maent yn parhau i gynnig cymorth. Byddaf yn cofio fy amser i gydag Academi Graddedigion am byth.”