GO Wales

Academi Raddedigion

Grŵp o bobl Academi’r Graddedigion yn gwenu

Mae Academi’r Graddedigion GO Wales yn rhaglen hyfforddi am ddim gyda’r nod o roi’r sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen i raddedigion gael gwaith graddedig. Mae cyflogwyr heddiw yn chwilio am wir dystiolaeth o sgiliau, galluoedd a dealltwriaeth o’r byd gwaith, sydd wedi’i thanategu gan brofiad yn y gweithle a dysgu achrededig.

Drwy gyfuno profiad gwaith gyda chymhwyster a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) cydnabyddedig, mae’r rhaglen yn gyfle dysgu sy’n canolbwyntio ar y sgiliau penodol ac ymarferol sydd eu hangen er mwyn llwyddo.

Cynhelir y rhaglenni mewn sawl lle ledled Cymru. Mae cyrsiau amser llawn, 6 wythnos yn cynnwys cwrs hyfforddi preswyl am bythefnos. Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni rhan-amser i’r rhai hynny sy’n gweithio ar hyn o bryd ac sy’n teimlo nad ydynt yn gwneud digon yn eu swyddi presennol ond na allant fynychu rhaglen amser llawn.

Beth yw barn pobl eraill am Academi’r Graddedigion?

Rhai sylwadau gan gyfranogion diweddar i’r Academi Raddedigion:

“Rwyf wedi mwynhau’r unedau yn fawr iawn, roedd y tiwtoriaid yn ardderchog... gwnaeth arddull y tiwtoriaid hi’n hawdd deall y gwaith, e.e. gwneud y gwaith yn hwyl a pherthnasol i sefyllfaoedd bob dydd.”

“Ardderchog – ymarferol, wedi eu targedu, perthnasol iawn.”

“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel – gweithio/byw mor agos gyda phobl newydd. Yn sicr, mae’n helpu gyda’ch sgiliau cymdeithasol a hyder ac yn helpu gyda’r newid o’r Brifysgol i’r gweithle.”

“Yn fy marn i roedd y rhaglen yn wych. Rhoddodd y profiad cyfan hyder i fi wrth chwilio am swydd, ac mae wedi fy annog i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac yn dilyn y profiad rwyf bellach yn teimlo’n llawer mwy cymwys wrth edrych am swyddi.”

Astudiaeth Achos Academi’r Graddedigion

Roedd Stephanie Merriman yn gweithio mewn swydd dros dro pan glywodd am Academi i Raddedigion GO Wales; graddiodd ym mis Gorffennaf 2008 gyda gradd yn y Gyfraith ac ar ôl blwyddyn o wneud gwaith dros dro, roedd yn teimlo bod yr academi yn swnio fel cyfle gwych i’w helpu i sicrhau swydd raddedig.
Darllenwch y Stori Lawn...

Sut ydw i’n cael gwybod mwy am Academi’r Graddedigion?

Dylai’r Canllawiau Gwybodaeth hyn ddweud y cyfan sydd eu hangen arnoch, gan gynnwys manylion ynglŷn â phwy sy’n gymwys i ymuno ag Academi’r Graddedigion a’r hyn sy’n digwydd yn ystod y rhaglen. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen y wybodaeth hon, anfonwch neges e-bost unrhyw bryd at graduateacademy@lamp.ac.uk

I wybod mwy am ddyddiadau a lleoliadau a sut i wneud cais ar gyfer Academi’r Graddedigion, ewch i’r dudalen Gwybodaeth am Raglenni a Gwneud Cais yma >

Beth fydd Academi’r Graddedigion yn ei gostio i mi?

Nid oes ffioedd cwrs ar gyfer rhaglen Academi’r Graddedigion. Caiff elfen y cwrs hyfforddi preswyl 2 wythnos ym mhob rhaglen amser llawn ei gynnig ar sylfaen prydau llawn gyda’r llety a’r prydau i gyd yn cael eu cynnig i’r cyfrannwr heb dâl.

Mae cymorth ariannol ar gael i helpu ariannu costau teithio ar gael ac, mewn rhai amgylchiadau, telir lwfans hyfforddi i’r cyfrannwr hefyd gan Academi’r Graddedigion.

Darllenwch ‘Ganllaw Ffioedd a Thaliadau GO Wales’ am fwy o wybodaeth ac os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at graduateacademy@lamp.ac.uk

Rhoi nod tudalen gyda:

Chwiliad Cyflym

Chwiliwch leoliadau gwaith