GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Pam ymuno â’r Academi Raddedig?

Grŵp o raddedigion a myfyrwyr yn eistedd o amgylch bwrdd yn trafod eu gwaith
  • Gwella eich cyflogadwyedd a’ch gobeithion gyrfaol graddedig trwy ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a chymwysterau gwerthadwy, cysylltiedig â gwaith, sydd wedi’u profi i fod o werth i sefydliadau o bob math a maint.
  • Ennill gwybodaeth a sgiliau penodol, newydd ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth.
  • Gwella’r sgiliau sydd gennych eisoes yn dilyn eich astudiaethau yn y Brifysgol.
  • Adeiladu ar eich sgiliau ‘trosglwyddadwy’ presennol, sydd eu hangen mewn unrhyw swydd, fel gweithio mewn tîm, cyfathrebu a datrys problemau.
  • Ymestyn eich profiad gwaith a datblygu cysylltiadau cyflogwyr i’ch cynorthwyo i chwilio am waith.
  • Ennill cefnogaeth gan diwtoriaid ac ymarferwyr gyrfa profiadol gyda’ch cynllunio gyrfa bersonol a chael mynediad at gyfleoedd gwaith ystyrlon.
  • Cynyddu eich hunanymwybyddiaeth a deall sut y mae eich sgiliau personol, cymwysterau a phriodoleddau yn gweddu i’r farchnad waith raddedig heddiw.
  • Cyfrannu at ddatblygiad economaidd ac ysfa gystadleuol yng Nghymru.