GO Wales

Newyddion GO Wales

GO Wales yn cael y GO-lau gwyrdd

Heddiw [dydd Mercher 11 Chwefror 2009], cyhoeddodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau fod menter, sy'n werth £17 miliwn, i helpu graddedigion i gael y dechrau gorau i'w gyrfa wedi cael sêl bendith i gael cyllid cydgyfeirio.

Bydd GO Wales yn rhoi hyfforddiant a chyfleoedd datblygu i bron 4,000 o fyfyrwyr a graddedigion i'w paratoi ar gyfer byd busnes. Bydd y cynllun yn ffocysu ar leoliadau gwaith ac yn golygu bod BBaCh a sefydliadau eraill yn cael mynediad at sgiliau lefel uwch i roi hwb i weithgarwch eu busnesau.

Cynhelir y prosiect diolch i dros £10 miliwn o arian Cydgyfeirio'r UE trwy Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) sy'n arwain y prosiect ac mae'n cael ei gyflwyno gan brifysgolion a cholegau addysg uwch ar draws Cymru. Yn ogystal â'r lleoliadau gwaith, bydd y rhaglen yn cynnig ystod o gyfleoedd gan gynnwys sefydlu Academi i Raddedigion a fydd yn rhoi hyfforddiant i annog unigolion i ddefnyddio'u gwybodaeth, eu sgiliau, a'u potensial arloesol yn economi Cymru.

I nodi'r cyhoeddiad ymwelodd y Gweinidog dros Addysg â Concrete Canvas sy'n cymryd rhan yn rhaglen GO Wales.

Meddai Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau:

“Bydd GO Wales yn helpu i ddarparu ystod o wasanaethau sy'n helpu myfyrwyr, graddedigion a busnesau yng Nghymru. Mae'n cynnig y cyfle i'r rheini sydd mewn addysg uwch i ennill mantais yn y farchnad waith gystadleuol sydd gennym heddiw. Yn ogystal â helpu myfyrwyr a graddedigion i wella'u profiad trwy gael lleoliadau yn y gweithle, mae GO Wales hefyd o fantais i fusnesau trwy roi help iddyn nhw ddod o hyd i weithwyr posibl a'u cadw.”

Trwy'r prosiect, bydd hyfforddiant arbenigol hefyd ar gael gyda'r nod o gynnal sgiliau lefel graddedig yng Nghymru a chefnogi graddedigion sydd am weithio fel ymgynghorwyr neu ar eu liwt eu hunain. Bydd graddedigion sy'n gweithio yng Nghymru, neu sydd am wneud hynny, hefyd yn gallu cael cymorth ar-lein trwy wefan GO Wales. Mae'r wefan yn rhoi cymorth hyfforddi i'r graddedigion hynny sydd eisoes yn gweithio yn y sector BBaCh hollbwysig.

Meddai Roger Carter, Pennaeth Datblygu Economaidd CCAUC:

“Rydym wrth ein bodd y bydd y cynllun llwyddiannus hwn yn cael y cyfle i ehangu ar ôl sicrhau arian Cydgyfeirio. Mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd o ran mentrau cyflogadwyedd i raddedigion yn y DU trwy gynnal rhaglenni unigryw megis GO Wales. Bydd adeiladu ar gynllun o'r fath yn helpu i wella sgiliau'r gweithlu ac yn cefnogi lleoliadau mewn busnesau bach. Mae hyn yn bwysig o ystyried yr hinsawdd economaidd gyfredol.”

Rhoi nod tudalen gyda:

Chwiliad Cyflym

Chwiliwch leoliadau gwaith