GO Wales

Newyddion GO Wales

Llawryddion y dyfodol yn elwa o raglen newydd GO Wales

Gemma June Howell

Yn ddiweddar cymerodd 22 o raddedigion ran mewn cwrs unigryw wedi’i deilwra a’i lansio gan GO Wales i ddechrau eu gyrfaoedd llawrydd yng Nghymru. Cynhaliwyd y rhaglen ym Mhrifysgol Morgannwg gan dîm o ymgynghorwyr; ac roedd yn cynnwys dau gwrs tri diwrnod i helpu egin lawryddion i ddatblygu’r sgiliau, hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i roi eu sgiliau busnes ar waith.

Yn ystod y cwrs cafodd yr holl gyfranogwyr gyfle i ennill cymhwyster Lefel 3 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae Gemma Howell yn y broses o sefydlu busnes cylchgrawn chwarterol a hyrwyddiadau, fe wnaeth hi ymgeisio am y cwrs llawryddion i helpu i roi dealltwriaeth iddi o sut i roi ei syniadau busnes ar waith.

Gemma ymlaen i egluro:

Pam roeddech chi eisiau cymryd rhan yn y cwrs i Lawryddion i ddechrau?

“Rwyf wedi bod yn brwydro fel artist, mewn ac allan o waith ers amser erbyn hyn, ac wedi cael nifer o syniadau ar sut y gallwn i gyfrannu i fyd y celfyddydau yng Nghymru ac o bosibl ei wella. Ymddengys i Academi’r Llawryddion ddod ar yr amser iawn ac mae wedi rhoi arweiniad gwerthfawr a hyder i mi i wella fy Musnes, MYscellaneoUS Publishing & Promotions.”

Pa sgiliau a galluoedd gwnes di eu datblygu o ganlyniad i’r cwrs?

“Roeddwn i’n gallu canfod fy nghryfderau a’m gwendidau’n hawdd, sy’n swnio’n syml ond mae wedi bod yn hynod o fanteisiol yn broffesiynol ac yn bersonol. Fe roddodd yr ymgynghorwyr gyngor defnyddiol i mi ar sut i reoli fy amser yn effeithiol ac, yn bwysicach fyth, sut i strwythuro a gwerthu fy nghynllun busnes. Fe wnaethant annog fy sylwadau ac yna eu datod; gan roi gwasanaeth personol a chynnig cymorth boed hynny yn ystod neu ar ôl y cwrs.”

Ydych chi’n meddwl bydd y cwrs yn eich helpu â’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol?

“Ydw - yn ddi-os! Mae gennyf gymhwyster Lefel 3 o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), ac aelodaeth am ddim i’r ILM lle mae amrywiaeth o gefnogaeth yn gysylltiedig â busnes, cyngor a gostyngiadau. Rwyf hefyd wedi ehangu fy rhwydwaith ac wedi cwrdd â llawryddion eraill sy’n gweithio yn fy musnes ar hyn o bryd. Fe wnaeth y cwrs ragori ar fy nisgwyliadau ac mae’n fenter gadarnhaol ar gyfer busnesau bach ac entrepreneuriaid yng Nghymru.”

A fyddech yn argymell y cwrs i eraill sy’n ystyried gweithio’n llawrydd?

“Byddwn. Mae’r tîm GO Wales yn cynnig gwasanaeth wedi’i deilwra i bobl fel fi, sy’n cychwyn ar fusnes. Roedd y cwrs yn ysbrydoledig ac eto’n ymarferol, ac roedd yn gyflwyniad da ar gyfer entrepreneuriaid brwd yng Nghymru.”

A oes yna rywbeth yr hoffech ei ychwanegu?

“Hoffwn ddiolch i GO Wales am y cyfle oherwydd hebddynt fyddwn i’n dal i droi mewn cylchoedd ac yn tanbrisio fy hun. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan mewn unrhyw fentrau yn y dyfodol lle gallaf wella a datblygu fy sgiliau. Erbyn hyn rwy’n rhagweld dyfodol MYscellaneoUS Publishing & Promotions, sy’n anelu at chwilio, rhoi sglein a lansio gyrfaoedd artistiaid talentog yn y Gymru gyfoes heddiw.”

Rhoi nod tudalen gyda:

Chwiliad Cyflym

Chwiliwch leoliadau gwaith