Er gwaetha’r dirwasgiad cafodd 490 o fyfyrwyr a graddedigion leoliad gwaith â thâl gyda busnesau ledled Cymru drwy GO Wales y llynedd.
Hyd yn hyn; mae 365 o fyfyrwyr a graddedigion wedi cwblhau eu lleoliadau gwaith ac mae 65% o’r rhain wedi cael cynnig gwaith tymor hirach gyda’r cwmni lleoliad neu’n rhywle arall.
Cymerodd Siân Edwards ran mewn lleoliad haf ac mae wedi cael cynnig gwaith pellach ar ôl graddio.
Tra ar leoliad gyda LCWR Architects yn Aberystwyth bu Siân yn cynorthwyo â cheisiadau cymeradwyo ar gyfer adfer adeilad rhestredig Gradd I. Creodd Sian luniadau adeiladu; fe wnaeth ei mewnbwn a'i gallu fynd y tu hwnt i ddisgwyliadau’r sefydliadau’n sylweddol a galluogi cyflwyno’r prosiect ar amser.
Dywedodd Siân:
“Rwyf wedi dysgu i weithio’n annibynnol ac wedi cael y cyfle i weithio gyda thîm o benseiri creadigol, mae hwn wedi bod yn brofiad a fydd yn amlygu fy mhortffolio i’r eithaf.”
“Credaf fy mod wedi profi mwy wrth weithio i fusnes bach oherwydd i mi dderbyn ystod o dasgau ac nid oedd neb yn arbenigo mewn un maes.”
Chwiliwch leoliadau gwaith