GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Lleoliadau Ewropeaidd

ECTARC

GO Wales yn Ewrop

Mae GO Wales ac ECTARC yn cydweithio i gynnig nifer o leoliadau mewn gwledydd Ewropeaidd ar gyfer graddedigion sydd â diddordeb mewn profi diwylliant ac amgylchedd gwaith arall tra’n gwella eu sgiliau iaith.

Beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’r rhain yn gyfleoedd cyffrous ar gyfer graddedigion talentog a brwdfrydig sy’n awyddus i archwilio gwlad arall yn yr UE. Mae’r rhaglen am gyfnod o 14 wythnos ac yn cynnwys:

  • Cyflwyniad a chwrs iaith ddwys yng Nghymru
  • Cwrs iaith yn y wlad rydych yn mynd iddi yn yr UE
  • Lleoliad gwaith yn y wlad honno

Mae’n cynnwys llety a’r rhan fwyaf o’r costau teithio. Mae’r lleoliadau naill ai yn Sbaen, yr Almaen yr Eidal, Italy neu Ffrainc.

Pwy sy’n gallu cymryd rhan?

I gymryd rhan mae’n rhaid i chi fod yn raddedig ac yn byw neu’n astudio yng Nghymru ac yn ddinesydd o’r DU neu wlad arall yn yr UE. Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn disgwyl graddio yn 2012.

Sut i wneud cais?

I ddarllen am brofiadau ymgeiswyr blaenorol ar leoliad, ac i ganfod mwy a gwneud cais ewch i wefan ECTARC.