GO Wales

Cyflawni eich potensial gyrfaol

Mwy am Leoliadau Gwaith

Y Broses

Rydym yn trefnu cannoedd o Leoliadau Gwaith bob blwyddyn, gan annog cyflogwyr lleol i gymryd rhan yn y cynllun lleoliad gwaith ac wedyn hysbysebu’r lleoliadau hyn ymhlith myfyrwyr a graddedigion chwilfrydig.

Gallwch weld a gwneud cais am unrhyw un o’n Lleoliadau Gwaith ar lein. Mae’r cyflogwr yn dewis pwy i’w cyfweld a phwy i’w cyflogi ar gyfer y lleoliad a hysbysebwyd.

Os cewch eich dewis bydd Ymgynghorydd GO Wales yn eich cynefino ac wedi hynny yn parhau â’r cyswllt yn ôl y galw o’ch rhan chi a’r corff sy’n eich cyflogi er mwyn cael y gorau allan o’r lleoliad.

System gais ar-lein newydd!

Rydym wedi lansio system gwneud cais ar-lein newydd a fydd yn gwella’r ffordd rydych yn gwneud cais am Leoliadau Gwaith GO Wales.

Datblygwyd y system ar-lein newydd i’ch helpu chi i gyflwyno ceisiadau o safon dda drwy symleiddio’r broses fel nad oes angen i chi lanlwytho a storio CVau a llythyron eglurhaol. Mae’n canolbwyntio yn hytrach ar adrannau penodol, gan gynnwys: eich addysg, profiad gwaith a sgiliau.

Byddwch yn elwa o:

  • Broses recriwtio decach - bydd yr holl geisiadau a anfonir at gyflogwyr yn ddienw, sy’n golygu y bydd y cyflogwr yn gweld eich rhif ymgeisydd yn unig a’r sgiliau, addysg a’r hyfforddiant rydych wedi eu harddangos yn eich cais, gan ei gwneud hi’n haws i gyflogwyr wneud dewisiadau effeithiol.
  • Profiad gwell i’r ymgeisydd - bydd y system newydd yn ei gwneud hi’n haws i chi gadw eich gwybodaeth ac i deilwra eich cais yn gyflym ac yn hawdd.

Gwobr Datblygiad Proffesiynol

Mae’r rheiny sydd ar Leoliad Gwaith GO Wales yn gweithio tuag at gymhwyster yn seiliedig yn y gwaith, sef y Wobr Datblygiad Proffesiynol. Gwobr City & Guilds yw hon a ddyluniwyd yn benodol i’ch helpu i ganolbwyntio ar eich datblygiad eich hun cyn, yn ystod ac yn dilyn eich lleoliad. Mae’n eich helpu i feithrin perthynas waith gyda’r corff sy’n eich cyflogi wrth i chi weithio tuag at nodau cyffredin ac nid yw’n cymryd llawer o amser i’w gwblhau ac mae GO Wales yn talu amdano.