GO Wales

Datganiad Preifatrwydd GO Wales

Mae GO Wales wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd ein defnyddwyr. Rydym eisiau rhoi profiad diogel a sicr i’n defnyddwyr. Fe wnawn bob ymdrech i ofalu bod y wybodaeth a roddwch i ni'n cael ei chadw'n breifat ac y caiff ei defnyddio'n unig i'r dibenion a ddisgrifir isod. Mae’r polisi canlynol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i chi.

Gwybodaeth am ymwelwyr GO Wales

Yn gyffredinol rydym yn casglu gwybodaeth am ein holl ddefnyddwyr gyda’i gilydd, megis pa fannau y mae defnyddwyr yn ymweld â hwy amlaf a pha wasanaethau y maent yn eu defnyddio fwyaf. Rydym yn defnyddio data o’r fath yn eu cyfanrwydd, heb gyfeirio at unigolion. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i benderfynu beth sydd fwyaf buddiol i’n defnyddwyr a sut y gallwn greu’n barhaus brofiad gwell drwodd a thro i’n defnyddwyr. Gallwn rannu’r wybodaeth hon â’n partneriaid, ond dim ond yn ei chyfanrwydd, fel y gallant hwythau hefyd ddeall sut mae ymwelwyr yn defnyddio safle GO Wales.

Gwybodaeth Amdanoch Chi’n Benodol

Mewn rhai achosion, megis pan fyddwch yn cofrestru â GO Wales, efallai y bydd arnom angen gwybodaeth fwy penodol amdanoch, fel enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, etc. Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno i gysylltu â chi efallai.

Datgelu Gwybodaeth Gyffredinol

Nid ydym yn datgelu gwybodaeth am eich ymweliadau unigol â GO Wales, na gwybodaeth bersonol a roddwch megis enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, i unrhyw bartïon allanol ac eithrio lle rydym yn credu bod angen hynny yn ôl y gyfraith. Ond gallwn gofnodi a rhannu gwybodaeth gyffredinol gyda’n partneriaid. Caiff ei defnyddio i ddibenion gweinyddol ac ystadegol mewnol a gallai gael ei harchwilio fel rhan o archwiliad UE neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Byddwn yn gofalu fod pob gwybodaeth bersonol a roddir yn cael ei chadw’n ddiogel, yn unol â Deddf Gwarchod Data 1998.

Adborth

Mae unrhyw adborth a roddir trwy wefannau GO Wales yn dod yn eiddo GO Wales. Gallwn ddefnyddio’r adborth hwn, megis storïau llwyddiant er enghraifft, i ddibenion marchnata. Yn yr achos hwn gallwn gysylltu â chi i gael adborth pellach.

Newidiadau i Ymrwymiad Preifatrwydd

Os penderfynwn newid ein hymrwymiad preifatrwydd ar gyfer GO Wales, byddwn yn dangos y newidiadau hynny yma fel y byddwch yn gwybod bob amser pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut y gallwn ddefnyddio’r wybodaeth honno, a ph’run a fyddwn yn ei datgelu ai peidio i unrhyw un. Os oes gennych gwestiynau neu bryderon unrhyw bryd am ymrwymiad GO Wales i breifatrwydd, mae croeso i chi anfon e-bost atom. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â’r materion hyn, cysylltwch â info@gowales.co.uk.

Rhoi nod tudalen gyda: