Rydych chi wedi llwyddo i gael cyfweliad. Llongyfarchiadau, rydych chi 90% o'r ffordd i gael y swydd rydych chi ei heisiau! Mae rhywbeth yn eich CV neu'ch ffurflen wedi denu sylw'r cyflogwr ac mae am eich cyfarfod a dod i wybod mwy amdanoch chi.
Mae paratoi ar gyfer cyfweliad yn hanfodol; mae methu â pharatoi yn golygu paratoi i fethu. Does dim ots faint o gyfweliadau rydych chi wedi'u cael yn y gorffennol, dylid trin pob un fel digwyddiad annibynnol.
Un cam pwysig yw dysgu mwy am y cwmni lle gwnaethoch ymgeisio am swydd. Mae lleoliad eu swyddfeydd, y man lle cynhelir eich cyfweliad, beth rydych chi'n mynd i'w wisgo a meddwl am atebion i gwestiynau y gallent ofyn i chi i gyd yn rhan o'r camau paratoi y dylech eu cymryd. Mae cyngor ar gyfweliadau ar gael gan Radio 1 ac mae'n werth ei ddarllen. Dylech allu dod o hyd i ddigon o wybodaeth yng Nghanolfan Yrfaoedd eich prifysgol.
Ar ôl i chi baratoi ar gyfer y cyfweliad, mae angen i chi ystyried beth rydych chi am ei wisgo. Mae angen i chi gofio ei bod yn bwysig i chi wisgo i lwyddo - mae'ch ymddangosiad a'r ffordd rydych chi'n ymddwyn yn ystod y cyfweliad yn faterion hollbwysig i'w hystyried. Cofiwch mai'r ffordd rydych chi'n perfformio ar y diwrnod sy'n cyfri'.
Mae angen i chi fod yn barod i gael eich cyfweld mewn gwahanol ffyrdd. Un ffordd yw'r cyfweliad wyneb yn wyneb un i un traddodiadol ond gallech gael eich cyfweld gan banel. Gallech gael eich cyfweld dros y ffôn neu hyd yn oed fideo. Defnyddir cyfweliadau fideo'n aml os ydych chi'n ymgeisio am swydd dramor. Bellach, yn aml iawn bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar gwestiynau'n ymwneud â gallu.
Efallai y bydd rhai sefydliadau am asesu'ch potensial trwy gyfres o brofion fel rhan o'u prosesau dethol. Gallai hyn ddigwydd cyn eich cyfweliad, neu'n ddiweddarach os ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae sawl ffordd y gellir cynnal y broses hon. Efallai y bydd gofyn i chi wneud prawf personoliaeth neu allu seicometrig. Efallai y bydd rhaid i chi wneud cyflwyniad neu fynychu digwyddiad cymdeithasol. Mae llawer o gyngor ar gael yn Target Jobs.
Byddem yn eich annog i ymweld â Gwefan Yrfaoedd eich Prifysgol hefyd. Mae gan Wefannau Gyrfaoedd Prifysgolion lawer o wybodaeth i'w myfyrwyr graddedig a allai eich helpu.
Rhoi nod tudalen gyda: