Mae bod yn hunan-gyflogedig yn ddewis realistig i fyfyrwyr graddedig. Os ydych chi'n ei ystyried, y peth cyntaf mae angen i chi ei wneud yw meddwl o ddifrif a oes gennych chi'r nodweddion personol iawn i lwyddo yn y dewis hwn.
Gallai tudalennau 'starting your business ' y Royal Bank of Scotland fod yn ddefnyddiol. Maent yn cynnwys prawf 'proffil personol' a allai eich helpu chi i ddarganfod eich potensial entrepreneuraidd a chodi materion nad ydych chi wedi'u hystyried.
Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma Awdurdod Datblygu Economaidd Cymru ac mae'n cynorthwyo busnesau i gychwyn, datblygu a thyfu. Mae'r wefan hon yn cynnig dolenni i ffynonellau cymorth a chyllid.
Mae Llygad Busnes yn fan cychwyn ar gyfer yr holl ymholiadau cymorth busnes yng Nghymru. Mae'n cynnig gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio am ddim i fusnesau neu ddarpar fusnesau ac, os yw'n briodol, yn eich rhoi mewn cysylltiad â chymorth gan y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.
Mae gwefan y Business Information Gateway for Wales (BIG Wales) yn rhestru llawer o gysylltiadau defnyddiol i'r sawl sy'n ystyried cychwyn eu busnesau eu hunain neu'n rhedeg busnes bach eisoes. Mae'n cynnwys pwyntiau cyfeirio ar gyfer cynlluniau busnes, dod o hyd i gyllid, cyfraith sylfaenol i fusnesau newydd ac awgrymiadau ar y ffordd o ddarganfod os mai cychwyn busnes eich hun yw'r dewis gorau i chi. Y wefan hon yw'r fwyaf perthnasol ar gyfer pobl Cymru, ond mae'r cymorth ymarferol yn ddefnyddiol i bawb.
Byddem yn eich annog i ymweld â Gwefan Yrfaoedd eich Prifysgol hefyd. Mae gan Wefannau Gyrfaoedd Prifysgolion lawer o wybodaeth i'w myfyrwyr graddedig a allai eich helpu.
Rhoi nod tudalen gyda: