Ysgrifennu CV da
Mae curriculum vitae yn gyflwyniad o'ch manylion academaidd, personol a gwaith sylfaenol. Dylid ei eirbrosesu a'i anfon ynghyd â llythyr eglurhaol.
Yn wahanol i ffurflen gais, chi sy'n rheoli cynnwys eich CV - does dim rhaid i chi ateb y gyfres o gwestiynau a ofynnir ar ffurflen gais ac rydych yn rhydd i amlygu'ch pwyntiau gorau ac i addasu'r arddull fel y mynnoch.
Does dim fformat gosod ar gyfer ysgrifennu CV ond ceir sawl amrywiad derbyniol. Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau y dylid eu nodi:
- Printiwch eich CV ar bapur o ansawdd da
- Sillafu a gramadeg - gwirio, gwirio a gwirio eto
Fframwaith Sylfaenol CV
Dylai'ch CV gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Cyfeiriad Cartref (a dyddiadau os ydych yn fyfyriwr â chyfeiriad tymor)
- Cysylltiadau: e-bost, ffôn a ffôn symudol
- Datganiad Personol: chi mewn paragraff byr, eich prif ragoriaethau a pham y dylai cyflogwr eich dewis chi
- Addysg a Chymwysterau
- Manylion Gradd
- Profiad Gwaith
- Canolwyr (enw, manylion cyswllt a'u perthynas â chi)
Penawdau ychwanegol dewisol (os ydynt yn berthnasol)
- Safleoedd eraill o gyfrifoldeb
- Diddordebau a Gweithgareddau
- Gwybodaeth Ychwanegol heb ei chynnwys yn yr uchod
Ni ddylid cynnwys rhyw, cenedligrwydd, oedran na dyddiad geni.
Cyflwyniad ac Arddull
- Defnyddiwch un ffont, sy'n lân, cyfoes a diffwdan. Dylech osgoi gormod o bwyslais (defnyddiwch deip trwm neu briflythrennau neu danlinellu neu italig) gan ei bod yn tynnu oddi ar y cynnwys yn aml ac yn edrych yn llai proffesiynol.
- Defnyddiwch led y papur yn effeithiol; gadewch fylchau rhwng eich testun fel ei fod yn glir ond peidiwch â gwastraffu lle.
- Dylech osgoi brawddegau hir; defnyddiwch bwyntiau bwled er mwyn crynhoi'n bwrpasol. Dyma rai enghreifftiau:
- rhoi cyflwyniadau a chadeirio cyfarfodydd clwb yn rheolaidd
- sefydlu systemau gofal cwsmeriaid newydd
- defnyddio meddalwedd MS Office ac Adobe
- Defnyddiwch ffeithiau a ffigurau i egluro'ch cyflawniadau ('Pan oeddwn yn y swydd, cyflwynais fesurau a ddaeth â gostyngiad o 12% mewn cwynion gan gwsmeriaid').
- Defnyddiwch fyrfoddau adnabyddus yn unig.
Rhoi nod tudalen gyda: