Testun yn unig

CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – OEDRAN

Safbwynt Graddedigion

Diffiniadau

Myfyriwr Aeddfed
Yn ôl UCAS, yn swyddogol y mae rhywun yn fyfyriwr hyn os yw ef/hi yn 21 mlwydd oed neu’n hyn ar ddechrau’r cwrs.
Oedraniaeth
Ym myd gwaith, y mae anffafriaeth ar sail oedran yn golygu gweithred sy’n anfanteisio unigolion oherwydd eu hoedran neu ar sail rhagdybiaethau, camsyniadau neu stereoteipio ynghylch oedran a gallu, ac sy’n llesteirio ystyriaeth briodol o dalentau, sgiliau, potensial a phrofiad unigolion. Gellir ei ddefnyddio i roi pobl dan anfantais beth bynnag fo’u hoedran.

Datgelu

Nid yw’n ofyniad cyfreithiol i chi roi eich oedran i ddarpar-gyflogwr. Serch hynny, bydd angen i chi ddatgelu eich oedran ar gyfer pensiwn, yswiriant neu bwrpasau meddygol.

Materion Penodol

Os ydych yn dal yn eich ugeiniau cynnar pan yn cwblhau eich astudiaethau, ni ddylech gael unrhyw broblemau penodol pan yn ceisio am swydd. Fodd bynnag, rydym heddiw’n byw mewn cymdeithas sy’n aml yn oedraniaethol a, hyd yn ddiweddar, yr oedd yn cael ei dderbyn bod cyflogwyr yn gallu dewis ymgeiswyr iau yn hytrach na rhai hyn petaent yn dymuno. Nid yw cyflogwyr i gyd fel hyn – y mae llawer ohonynt yn gwerthfawrogi’r sgiliau a’r profiad y gall gweithwyr hyn eu cynnig. Mae oedraniaeth yn dra chyffredin ac yn cael effaith ar bob grwp oedran. Mae oedraniaeth yn bodoli gan fod rhagdybiaethau yn cael eu gwneud am unigolion – hen ac ifanc – sydd wedi eu seilio ar stereoteipiau anghywir, hen ffasiwn neu amhriodol. Mae’r agweddau hyn yn gweithio yn erbyn lles yr unigolyn, y gweithlu a’r cyflogwr.

Mae graddedigion hyn yn fwy tebygol o wynebu diweithdra na graddedigion ‘traddodiadol’, a hefyd yn fwy tebygol o gael eu tangyflogi pan yn gweithio. Ychydig iawn o fyfyrwyr hyn sy’n cael eu recriwtio i swyddi uchel, ac os ydynt yn cael swyddi felly, swyddi anodd i’w llenwi ydynt fel rheol. Mae hyn yn arbennig o wir mewn cwmnïau sy’n dal i weithredu cynlluniau derbyn graddedigion lle mae’r terfyn oedran mor isel â 25 oed yn aml.

Ar nodyn mwy positif, dichon fod gan fyfyrwyr hyn fwy o brofiad a deallusrwydd ymarferol mwy datblygedig na myfyrwyr ‘traddodiadol’ – a’r broblem yw nad yw’r myfyrwyr na’r darpar gyflogwyr yn aml yn ymwybodol o hyn. Felly, y mae myfyrwyr hyn yn fwy tebygol o feddu ar ystod o sgiliau rhyngbersonol a phrofiad, a phan yn dechrau mewn swydd newydd, y mae’n bosibl y byddant yn gorfod dwyn cyfrifoldebau trymion fel pe baent wedi bod yn y swydd honno erioed. Mae angen i fyfyrwyr hyn gael eu hyfforddi i fanteisio i’r eithaf ar eu profiadau ac, yn anad dim, i beidio ag ymddiheuro am eu hoedran.

Deddfwriaeth Oedran – 2006

Oddi ar 1 Hydref 2006, bydd gwahaniaethu ar sail oedran mewn gwaith a hyfforddiant galwedigaethol, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn anghyfreithlon oni bai fod rhesymau cyfiawnadwy dros wneud hynny.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pan fo polisi sy’n cael ei gymhwyso i bawb yn rhoi grwp arbennig (e.e. pobl hyn) o dan anfantais. Nid yw’n golygu bod cyflogwyr yn gorfod derbyn neu hyfforddi pobl anghymwys neu nad sy’n gallu cyflawni cwrs o hyfforddiant neu berfformio dyletswyddau hanfodol y swydd.

Lansiwyd ymgyrch Age Positive yn 1999 i annog cyflogwyr i anwybyddu oedran fel ffactor pan yn recriwtio. Mae eu gwefan yn nodi cyflogwyr sy’n gefnogwyr Age Positive ac yn mynd ati i recriwtio cyflogedigion hyn. Mae cwmnïau sy’n aelodau o Fforwm y Cyflogwyr ar Oedran hefyd wedi dangos ymrwymiad i weithlu cymysg o ran oedran. Mae rhai cyflogwyr wedi cyflwyno ffurflenni diragfarn ac adolygu eu llenyddiaeth a’u gwefannau er mwyn sicrhau nad yw ymgeiswyr hyn yn cael eu digalonni.

Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth sydd ar ddod, a mynd ati i newid unrhyw arferion sy’n anffafrio pobl hyn, yn hytrach na gadael hynny tan y funud olaf. Yng nghyrff y sector cyhoeddus – er enghraifft, llywodraeth leol a gwladol – ni ddylai problemau ddod i’ch rhan.

Nid yw cynlluniau denu graddedigion yn cael eu crybwyll yn benodol yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gorwel, ond awgrymir bod cyflogwyr yn pennu terfyn oedran ar gyfer recriwtio dim ond os y gallant gyfiawnhau hynny gan gyfeirio at amcanion penodol. Byddai enghraifft o hyn yn cynnwys gweithgareddau lle mae angen cyfnod rhesymol o gyflogaeth ar ôl hyfforddiant cyn ymddeol.

New Deal 50 Plus

Dyma raglen ar gyfer pobl sy’n 50 oed neu’n hyn sydd wedi bod yn ddi-waith ac yn hawlio budd-daliadau am o leiaf 6 mis. Gall helpu unigolion i fynd i mewn i waith amser llawn neu ran amser yn ogystal â’u cynorthwyo i ddechrau eu busnesau eu hunain neu fynd yn hunan-gyflogedig. www.jobcentreplus.gov.uk/jcpwelsh/Customers/outofworkhelplookingforwork/gettingjobready/programmes/NewDeal/Y_Fargen_Newydd_50_oed_a_throsodd/index.html neu siaradwch â chynghorwr personol New Deal yn eich Canolfan Waith leol

Dyma rai pwyntiau o waith ymchwil a wnaed gan y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Addysg Uwch, ac sy’n dangos y gwahanol effaith a gaiff oedran:

  • Roedd graddedigion gwrywaidd a dderbyniwyd i addysg uwch dros 24 oed yn profi mwy o anfanteision yn y farchnad lafur na’r rheini a dderbyniwyd i addysg uwch rhwng 21 a 24 oed.
  • Canfuwyd bod y rheini yn y grwp oedran 21-24 wedi profi rhai manteision yn y farchnad lafur o’u cymharu â graddedigion iau; roeddent yn fwy tebygol o fod mewn swydd lefel graddedigion ac yn fwy bodlon â’u swydd.
  • Mae’r gwahaniaethau yn debyg yn achos graddedigion benywaidd.
  • I’r rheini a oedd dros 25 oed pan y’u derbyniwyd i addysg uwch, nid yw profiad gwaith yn ystod y cwrs yn gysylltiedig â’r manteision a rydd i fyfyrwyr eraill o safbwynt cyflogaeth.
  • Mae myfyrwyr hyn yn fwy tebygol o weithio oriau hirach yn ystod y tymor ac, fel gyda grwpiau eraill o fyfyrwyr, y mae gan gweithio yn ystod y tymor gysylltiad negyddol â chanlyniadau cyflogaeth llwyddiannus.
  • Yn ogystal, i fyfyrwyr hyn, nid yw gweithgareddau y tu allan i’r cwricwlwm yn cael eu cysylltu â llwyddiant mewn gwaith.
  • Ymddengys nad yw amseriad chwilio am swydd yn cael effaith ar obeithion graddedigion hyn o safbwynt cyflogaeth.
  • Mae’r dechneg o gysylltu â chyflogwyr heb wybod os oes swydd wag ai peidio yn tueddu i ddod â llwyddiant i raddedigion hyn. Serch hynny, defnyddir y dechneg yma yn llai aml gan raddedigion hyn na chan grwpiau eraill o raddedigion.

Bod yn ymwybodol o Ragdybiaethau Posibl Cyflogwyr

Mae anffafriaeth sy’n ymwneud ag oedran wedi bod yn destun ymchwil am flynyddoedd lawer, a dengys y gwaith ymchwil hwnnw fod y fath anffafriaeth yn dra chyffredin yn y gweithle – yn enwedig yn achos y rheini dros 40 oed, yr ifanc iawn a merched sy’n dychwelyd i’r gwaith.

  • Dengys ymchwil gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fod gweithwyr iau a hyn wedi dioddef anffafriaeth o safbwynt dyrchafiad, tra bod gweithwyr hyn yn fwy tebygol o gael eu diswyddo.
  • Ar ben hynny, roedd rhesymau cwmnïau dros wahaniaethu ar sail oedran wedi eu seilio ar wybodaeth anghywir, gan gynnwys canfyddiadau cyfeiliornus o ‘ddiwylliant’ a ‘ffit’, a rhesymau’n ymwneud â pha un ai y gellid fforddio gweithwyr hyn.
  • Mynegodd llawer gwynion na fyddai gweithwyr o wahanol oedrannau yn gallu cymysgu.
  • Roedd bron pob un o’r agweddau a ddangoswyd tuag at grwpiau oedran arbennig yn categoreiddio pobl yn unol â phriodoleddau ystrydebol.

Ategir hyn ymhellach gan ymchwil a wnaed gan Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol MORI a edrychai ar agwedd y cyhoedd yn gyffredinol tuag at gydweithwyr o wahanol oedran.

Pan ofynnwyd iddynt pa nodweddion a gysylltent â gweithwyr hyn (sef y rheini rhwng 50 a 65 oed) dywedodd 34% eu bod yn tueddu i wrthsefyll unrhyw newid. Teimlai 29% fod gweithwyr hyn yn brin o sgiliau technolegol.

Pan ofynnwyd iddynt pa nodweddion a gysylltent â gweithwyr iau (sef gweithwyr rhwng 16 a 25 oed) yr ateb mwyaf cyffredin oedd diffyg profiad gyda rhagor na’u hanner (53%) yn dweud hynny. Nodweddion eraill a gysylltid â gweithwyr iau oedd eu bod yn annibynadwy (38%), yn anghyfrifol (35%), yn fwy tebygol o fod yn absennol o’r gwaith oherwydd salwch (33%), diffyg sgiliau trefnyddol (25%) a’u bod yn aros yn eu swyddi am gyfnod byrrach o amser (22%).

Byddwch yn barod i herio’r rhagdybiaethau hyn pan yn ceisio am swydd:

  • Nodwch y sgiliau a ddatblygasoch yn ystod eich astudiaethau, gwaith blaenorol a phrofiad bywyd yn gyffredinol – gwaith tîm, cyfathrebu, gallu i ymgyfaddasu
  • Pwysleisiwch eich gallu i ymgymryd â chyfrifoldebau swydd newydd fel petaech wedi bod yn gweithio yn y swydd honno ers blynyddoedd
  • Dangoswch eich hyblygrwydd a’ch profiad o astudio a gweithio mewn amgylcheddau cymysg o ran oedran
  • Dangoswch hyder i fynd i’r afael â newid
  • Dangoswch yr hunan-gymhelliant a’r sgiliau trefnu amser y buoch yn eu gwella dros y blynyddoedd diwethaf
  • Sicrhewch eich bod yn rhoi darlun ffafriol o’ch hunan. Ymchwiliwch i bob cais yn drylwyr, a chyflwynwch ef yn ofalus. Safon yn hytrach na swm!
  • Targedwch y cyflogwyr hynny sy’n dymuno eich denu, a manteisiwch ar unrhyw fentrau sydd ar gael.
  • Peidiwch fyth ag ymddiheuro am eich oedran.

Os ydych yn pryderu am ddiffyg cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac effaith hynny ar eich pensiwn yn y dyfodol, cysylltwch â’r Adran Cyllid Gwladol a fydd yn gallu darparu manylion ynghylch gwneud cyfraniadau dewisol tra rydych yn astudio.

Gwnewch yn siwr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar y cymroth a gynigir gan wasanaeth gyrfaoedd y brifysgol.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
ACAS
The Advisory Conciliation and Arbitration Service. Amcanu at wella cwmnïau a bywyd yn y gwaith drwy hybu gwell cysylltiadau yn y gweithle.
Age Positive
Gwefan gynhwysfawr sy’n cynnig cyngor i unigolion hyn (graddedigion a phobl heb radd) parthed gwneud cais am swydd neu fynd yn hunan-gyflogedig.
Diversity Milkround
Amcanu at hybu ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag amrywioldeb yn y gweithle. Mae’r wefan hefyd yn cynnig cyfoeth o wybodaeth a chyngor mewn chwe adran i gyflogedigion a phobl sy’n chwilio am waith.
Yr Adran Cyllid Gwladol
Gwybodaeth am gyfraniadau a lwfansau Yswiriant Gwladol dewisol.
Prime Cymru
Cymorth i’r rheini sy’n 50 oed neu’n hyn sy’n dymuno sefydlu eu busnesau eu hunain.
Prospects
Gwybodaeth am ystod eang o faterion sy’n ymwneud â gyrfaoedd.
TIGER
Tailored Interactive Guidance on Employment Rights. Wedi ei lunio i roi arweiniad syml i bobl ynglyn â gwahanol agweddau ar gyfraith cyflogaeth y DU.
Third Age Employment Network
Cynrychioli buddiannau pobl hyn sydd eisiau parhau i dderbyn hyfforddiant, gweithio, a chael cyfle i ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad.

Rhoi nod tudalen gyda: