Testun yn unig

Awtistiaeth / Syndrom Asperger

Definitions

Awtistiaeth

Yn ôl y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, awtistiaeth yw’r anabledd nad oes neb yn ei weld, yr anabledd anweledig sy’n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu ac yn ymwneud â’r byd o’u cwmpas. Yn aml caiff pobl sydd ag awtistiaeth anawsterau wrth ddelio â phobl eraill o ddydd i ddydd ac wrth geisio gwneud synnwyr o’r byd. Mae pobl sydd ag awtistiaeth fel arfer yn cael trafferthion mewn tri phrif maes yn bennaf:

  • Rhyngweithredu Cymdeithasol (er enghraifft, gallant ymddangos yn bell i ffwrdd neu’n ddifater)
  • Cyfathrebu Cymdeithasol (er enghraifft, nid ydynt yn deall yn llawn beth yw gwir ystyr ystumiau, mynegiant yr wyneb na goslef y llais)
  • Dychymyg (er enghraifft, dim ond hyn a hyn o weithgareddau yn defnyddio’r dychymyg y gallant ei wneud, ac mae’n bosibl y bydd y rheiny yn cael eu copïo a’u hail-wneud yn ddisgybledig dro ar ôl tro)

Ar ben hyn, gellir gweld patrymau ymddygiad ailadroddus yn llawer o’r dioddefwyr ac maent yn gwrthwynebu unrhyw newid i drefn arferol pethau. Mae gan rai dioddefwyr anawsterau dysgu hefyd.

Syndrom Asperger

Math o awtistiaeth yw Syndrom Asperger, ac maent yn rhannu llawer o’r un nodweddion (gan gynnwys y tri phrif maes y sonnir amdanynt uchod). Er hynny, fel arfer mae gan bobl sydd â Syndrom Asperger lai o broblemau iaith na’r rheiny sydd ag awtistiaeth, ac nid ydynt fel arfer yn cael yr un anawsterau dysgu ychwaith; yn wir mae pobl â Syndrom Asperger yn aml o allu cyffredin os nad â deallusrwydd sy’n uwch na’r cyffredin.

Yn aml mae pobl sydd â Syndrom Asperger yn magu diddordeb arbennig mewn rhyw faes arbennig sydd bron â bod yn obsesiwn ganddynt. Fel arfer mae eu diddordeb yn cynnwys trefnu neu gofio ffeithiau a rhifau ynghylch pwnc arbennig. Mae unrhyw newid yn aml yn peri dryswch a gofid i’r rhai sy’n dioddef o Syndrom Asperger ac mae’n well ganddynt drefnu eu diwrnod yn ôl patrwm gosodedig. Gall unrhyw newid annisgwyl i’r drefn honno eu gofidio a’u cynhyrfu.

Dyma’r prif nodweddion, ond mae pob person yn unigolyn, a bydd y nodweddion hyn yn amrywio’n fawr ac efallai y bydd rhai yn dod i’r amlwg yn fwy nag eraill.

Pethau i’w hystyried

Mae mwyfwy o gyflogwyr bellach â pholisïau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithlu, a bwriad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Y mae’n awr yn anghyfreithlon i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n angenrheidol ar gyflogwyr i sicrhau ‘addasiadau rhesymol’ i gael gwared ag unrhyw rwystrau y gallech chi ddod ar eu traws yn sgil eich anabledd.

Y cwestiwn sydd o’ch blaen chi wedyn yw pryd a sut i roi gwybod am eich anabledd (nid oes raid i chi ddweud ond ni ellwch wedyn gael cefnogaeth y Ddeddf Anabledd). Mae mwy o gyngor yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl y cyflwr i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall cynghorydd yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd eich helpu gyda hyn.

Yn y lle gwaith gall pobl sydd â Syndrom Asperger gynnig llawer – maent yn brydlon, yn ddibynadwy ac yn ymroddedig. Mae’n hollbwysig eich bod yn gwybod beth yw eich gwendidau a’ch cryfderau arbennig chi. Efallai gallech gael cymorth Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd y Brifysgol i wneud hyn. Meddyliwch pa fath o waith oedd yn gweddu i’ch cryfderau a’r math o waith y byddech yn ei fwynhau.

Efallai y bydd yn rhaid i chi esbonio eich cyflwr a’i oblygiadau i gyflogwyr posibl pan fyddwch yn ymgeisio am swydd. Gellwch wneud hyn drwy roi llythyr meddygol byr iddynt sy’n nodi eich diagnosis ac sy’n rhoi esboniad cryno o’r ffyrdd y mae’n debygol o effeithio arnoch.

Gwasanaeth ymgynghori ynghylch cyflogaeth yw Prospects ac mae’n cydweithio â’r Gymdeithas Awstistiaeth Genedlaethol i gynorthwyo pobl ag awtistiaeth a syndrom Asperger i ddod o hyd i waith, yn ogystal â chydweithio â chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gwybod popeth y maent angen ei wybod am eich cyflwr pan fyddwch yn ymgeisio am swydd ac wedi hynny. Gellwch gael mwy o wybodaeth amdanynt drwy fynd i www.nas.org.uk.

Astudiaethau Achos

Prospects
Llwyddodd Katherine ac Alex ill dau i ddod o hyd i swyddi gyda chymorth Prospects. Darllenwch eu storïau yma.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol
Elusen sy’n cynnig cefnogaeth i bobl sydd ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig yn ogystal â chynnig gwybodaeth am yr anhwylderau.
Ymgynghoriaeth Gwaith Prospects
Gwasanaeth ymgynghori ynghylch cyflogaeth yw Prospects ac mae’n cydweithio â’r Gymdeithas Awstistiaeth Genedlaethol i gynorthwyo pobl sydd ag awtistiaeth a syndrom Asperger i ddod o hyd i waith.
Myfyrwyr Prifysgol sydd ag Awtistiaeth a Syndrom Asperger
Lluniwyd y safle hwn gan fyfyriwr sydd â Syndrom Asperger ac mae ar gyfer myfyrwyr eraill sydd ag afiechydon yn y sbectrwm awtistig.
Graduate Prospects
Mae’r adran anableddau ar wefan swyddogol Gyrfaoedd i Raddedigion ym Mhrydain yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, gwerthu eich hun ac astudiaethau achos.

Rhoi nod tudalen gyda: