Testun yn unig

Parlys yr Ymennydd

Diffiniadau

Parlys yr Ymennydd

Yn ôl Scope, nid yw parlys yr ymennydd (cerebral palsy) yn afiechyd nac yn salwch. Mae’n ddisgrifiad o ddiffyg corfforol sy’n effeithio ar symudiadau’r corff. Amrywia’r problemau symud o berson i berson, o fod yn broblem yr ydych prin yn sylwi arni i fod yn ddifrifol iawn. Nid oes unrhyw ddau berson sydd â pharlys yr ymennydd yr un fath; y mae mor unigolyddol â phobl eu hunain.

Mae “parlys yr ymennydd” yn cynnwys amrywiaeth o gyflyrau gwahanol. Mae’r tri phrif fath yn cyfateb i anafiadau i rannau gwahanol yr ymennydd:

  • Mae pobl sydd â pharlys yr ymennydd sbastig yn canfod bod rhai cyhyrau yn cyffio ac yn gwanhau, yn enwedig wrth ymlafnio. Gall hyn effeithio ar eu gallu i reoli eu symudiadau.
  • Mae gan bobl sydd â pharlys yr ymennydd athetoid beth diffyg rheolaeth ar ystumiau eu corff, ac maent yn tueddu i wneud symudiadau na ddymunir.
  • Caiff pobl sydd â pharlys yr ymennydd afreolus broblemau â chydbwysedd. Mae’n bosibl bod eu dwylo’n crynu hefyd a’u lleferydd yn anghyson.

Yn aml mae pobl sydd â pharlys yr ymennydd yn cael trafferth rheoli eu symudiadau a’u hwynebau. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu yr amharwyd ar eu gallu meddyliol mewn unrhyw fodd. Mae gan rai ddeallusrwydd sy’n uwch na’r cyffredin; mae gan eraill â’r parlys anawsterau dysgu canolig neu ddifrifol. Mae’r rhan fwyaf, fel y rhan fwyaf o bobl heb y cyflwr, yn berchen ar ddeallusrwydd normal.

Pethau i’w hystyried

Mae mwyfwy o gyflogwyr bellach â pholisïau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithlu, a bwriad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Y mae’n awr yn anghyfreithlon i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n angenrheidol ar gyflogwyr i sicrhau ‘addasiadau rhesymol’ i gael gwared ag unrhyw rwystrau y gallech chi ddod ar eu traws yn sgil eich anabledd.

Y cwestiwn sydd o’ch blaen chi wedyn yw pryd a sut i roi gwybod am eich salwch (nid oes raid i chi ddweud ond ni ellwch wedyn gael cefnogaeth y Ddeddf Anabledd). Mae mwy o gyngor yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl y cyflwr arnoch chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall cynghorydd yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd eich helpu gyda hyn.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau ar hyn o bryd, gall y Ganolfan Gynghori (Citizens Advice Bureau) eich helpu gydag amcangyfrifiad 'yn well eich byd' i gymharu eich sefyllfa ar hyn o bryd ag un posibl petaech mewn gwaith .

Bellach ceir mwyfwy o ffyrdd technolegol i ddatrys unrhyw rwystrau tybiedig i’ch dewis chi o yrfa. Gall y cynllun Mynediad i Waith roi arian ar gyfer addasiadau rhesymol i gyflogwyr, ac mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau angenrheidiol ar gyfer cyfweliad a’r broses ddewis. Gall y cynllun Mynediad i Waith hefyd roi grantiau ar gyfer addasiadau corfforol i adeiladau i symud unrhyw rwystrau sydd yno i weithwyr sydd ond yn medru symud ychydig.

Yn hytrach na phortreadu eich anabledd fel problem, mae’n bwysig eich bod yn rhoi portread cadarnhaol. Os gellwch gyflwyno i’ch cyflogwr posibl ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol i’w lle gwaith ar gyfer eich anghenion penodol chi, a ffordd o dalu am y newidiadau, bydd yn dangos iddynt eich bod yn berson gweithgar sy’n chwilio am atebion.

Astudiaethau Achos

Mae Rob Thorne yn 25 ac yn athro dosbarth chwech yn Oldham.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Graduate Prospects
Mae’r adran anableddau ar wefan swyddogol Gyrfaoedd i Raddedigion ym Mhrydain yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, gwerthu eich hun ac astudiaethau achos.
Scope
Mae eu gwefan yn cynnwys llwyth o wybodaeth ynghylch y cyflwr a’i oblygiadau.
Techdis
Mae’r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata fawr o ddeunydd technolegol addasol i gynorthwyo gydag amrywiaeth eang o anableddau.

Rhoi nod tudalen gyda: