Testun yn unig

Syndrom Blinder Cronig (Chronic Fatigue Syndrome / CFS)

Mae’n cael ei adnabod hefyd fel: Myalgic Encephalomyelitis (ME); Syndrom Blinder ar ôl Feirws (Post Viral Fatigue Syndrome / PVFS)

Diffiniadau

Syndrom Blinder Cronig (CFS)

Mae’r Syndrom Blinder Cronig (CFS) yn cael ei ystyried yn afiechyd y system nerfol sy’n effeithio ar yr unigolyn yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Ni ddeallir yn iawn beth sy’n ei achosi, ond er ei fod yn aml yn datblygu ar ôl feirws, megis ffliw neu dwymyn y chwarennau (glandular fever), gall hefyd ddigwydd yn araf heb yr un rheswm amlwg.

Gall symptomau CFS amrywio’n arw, gyda symptomau gwahanol yn effeithio ar bobl wahanol, ac unigolion yn dioddef symptomau gwahanol ar adegau gwahanol. Nid yw’n anarferol i bobl gael dyddiau gwael a dyddiau da, y cyflwr yn ysgafnhau am blwc ac yna pwl arall yn eu gwaelu. Mae’n bwysig cofio nad yw cyfnod o ysgafnhau ar y symptomau yn golygu bod y cyflwr wedi mynd, ac mae gwneud gormod yn gallu golygu ailwaelu. Gwneir diagnosis o CFS yn amlach na pheidio yn sgil casgliad o symptomau, gan gynnwys:

  • Llesgedd – yn aml yn mynd tu hwnt i flinder arferol
  • Poen yn y Cyhyrau
  • Anhwylder Cyffredinol, tebyg i ffliw
  • Anallu afreolaidd i ganolbwyntio a chofio
  • Colli cydbwysedd
  • Gwendid yn y Cyhyrau
  • Gorsensitifrwydd i stimwli – gan gynnwys golau, a chyffyrddiad
  • Stamina Gwael
  • Problemau Treulio Bwyd ac Alergeddau Bwyd
  • Methu Dioddef Alcohol
  • Cysgu’n aflonydd
  • Rheolaeth wael ar dymheredd
  • Cur pen a’r meigryn
  • Hwyliau oriog – sydd weithiau’n arwain at iselder. Golyga hyn wedyn bod CFS weithiau’n cael ei gamddehongli fel iselder.

Nid oes un gwellhad sy’n gyffredin i bawb, a gall triniaeth sy’n gweithio i un person wneud dim i un arall, neu hyd yn oed fod yn wrthgynhyrchiol iddynt. Gall anian afreolaidd ac anweledig y cyflwr olygu camddealltwriaethau a rhagdybiaethau fod y dioddefwr yn ddiog, neu’n cymryd arnant eu bod yn wael, sy’n gallu bwydo iselder ac oriogrwydd mewn hwyliau yr unigolyn.

Dysgu dros amser beth sy’n gweithio orau iddyn nhw y mae pobl sydd â’r cyflwr, a dysgu sut i reoli’r cyflwr, ac ymhen amser maent yn gallu ymgyrraedd tuag at 'normalrwydd' lle nad ydynt mwyach ar drugaredd eu symptomau ac maent unwaith eto yn galllu rheoli’u bywydau.

Pethau i’w hystyried

Mae mwyfwy o gyflogwyr bellach â pholisîau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithlu, a bwriad y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Y mae’n awr yn anghyfreithlon i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n angenrheidol ar gyflogwyr i sicrhau ‘addasiadau rhesymol’ i gael gwared ag unrhyw rwystrau y gallech chi ddod ar eu traws yn sgil eich anabledd.

Y cwestiwn sydd o’ch blaen chi wedyn yw pryd a sut i roi gwybod am eich salwch (nid oes raid i chi ddweud ond ni ellwch wedyn gael cefnogaeth y Ddeddf Anabledd). Mae mwy o gyngor yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl y cyflwr arnoch chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall cynghorydd yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd eich helpu gyda hyn.

Os ydych wedi bod ag CFS ers sbel, bydd gennych syniad go lew ar sut i reoli’ch symptomau, ond mae’n hollbwysig nad ydych yn ei gorwneud hi ac yn gwaelu unwaith eto. Efallai y gallech ystyried gwneud ychydig o waith gwirfoddol i brofi’r dyfroedd ac i weld faint yr ydych yn gallu ymdopi ag ef mewn gwirionedd. Mae’n bwysig eich bod yn cryfhau yn araf deg gan gyrraedd lefel yr ydych chi’n gyfforddus â hi, ac efallai y bydd hyn yn cymryd peth amser.

Os gwelwch bod eich salwch yn golygu na allwch wneud y swydd yr oeddech wedi meddwl ei gwneud, yna meddyliwch eto ynghylch beth yr ydych yn mwynhau ei wneud, a sut y gallai hynny efallai eich arwain at waith o ryw fath. Mae rhai pobl yn dewis mynd i weithio ar eu liwt eu hunain gan fod hyn yn rhoi mwy o ryddid iddynt i reoli’u llwyth gwaith eu hunain. Mae eraill yn hapus i fynd yn ôl i waith mewn cwmnîoedd.

Er bod y penderfyniad i roi gwybod ai peidio am eich salwch yn un personol, gallai esbonio eich sefyllfa olygu eich bod yn fwy tebygol o gael y cymorth a’r gefnogaeth yr ydych eu hangen – pe baech yn cael y swydd. Gellwch wneud hyn drwy roi gwybodaeth i’ch cyflogwr posibl ynghylch CFS, a sut y mae’n effeithio arnoch chi’n bersonol. Gellwch lawr lwytho arweiniad AfME i’r symptomau, yr achosion a’r triniaethau o’r adran Adnoddau, neu gofynnwch i’ch meddyg lunio crynodeb o’r cyflwr a sut y mae’n effeithio arnoch chi (neu lluniwch un eich hun).

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Action for ME
Prif elusen Prydain sy’n ymroddedig i wella bywydau pobl sydd ag ME / CFS. Mae’r safle hwn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y cyflwr, grwpiau cefnogi a gwybodaeth ymgyrchu.
ME Association
Yn rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ag ME / CFS a gwybodaeth ynghylch y cyflwr.
Cylchgrawn InterAction
Mae’n cynnwys erthyglau ynghylch dychwelyd i’r gwaith, a gellwch ei lawr lwytho fel testun neu pdf.
Graduate Prospects
Mae’r adran anableddau ar wefan swyddogol Gyrfaoedd i Raddedigion ym Mhrydain yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, gwerthu eich hun ac astudiaethau achos.

Rhoi nod tudalen gyda: