Testun yn unig

Nam Clyw

Diffiniadau

Nam Clwy

Nid yw Nam Clyw o reidrwydd yn golygu byddardod llwyr. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Byddar (RNID) yn amcangyfrif bod gan tua 9 miliwn o bobl yn y DU nam ar eu clyw. Does gan rai ohonynt ddim neu fawr ddim clyw o’u genedigaeth; bydd eraill yn colli eu clyw o ganlyniad i ddamwain, ac eraill oherwydd cyflwr meddygol.

Mae rhai pobl â chlyw rhannol yn gallu defnyddio cymorth clyw er mwyn clywed beth sy’n digwydd o’u cwmpas. Bydd eraill yn mynd ati i ddarllen gwefusau er mwyn deall pobl yn siarad. Bydd eraill (gan amlaf ond nid bob amser, pobl sy’n drwm iawn eu clyw), yn defnyddio iaith arwyddion. Yn aml, defnyddir cyfuniad o’r dulliau hyn, ac mae’r RNID yn darparu cyngor defnyddiol yn eu taflen ‘Deaf and Hard of Hearing People’, sydd ar gael o’u gwefan.

Pethau i’w Hystyried

Mae gan mwy a mwy o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithle, a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithlon i drin rhywun ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn mynnu bod cyflogwyr yn gwneud ‘addasiadau rhesymol’ i symud unrhyw rwystrau y gallech ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.

Mae hyn yn eich gadael â’r cwestiwn o bryd a sut i fynd ati i ddatgelu eich anabledd (does dim rhaid i chi ddatgelu, ond os na wnewch, ni allwch hawlio amddiffyniad y Ddeddf uchod). Ceir mwy o gyngor ynglyn â datgelu yn yr adran Adnoddau, ond ystyriwch beth a all goblygiadau’r cyflwr ei olygu i chi a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu yn hyn o beth.

Ceir mwy a mwy o atebion technolegol i’r hyn sy’n ymddangos yn rhwystrau wrth ddewis eich gyrfa. Bydd y cynllun Access to Work yn cynnig cyllid i gyflogwyr ar gyfer addasiadau rhesymol gan gynnwys unrhyw addasiadau sydd eu hangen ar gyfer cyfweliad neu’r drefn ddewis. Ar wefan yr RNID mae gwybodaeth ddefnyddiol ynglyn â’r mater hwn ac agweddau eraill ar gyflogaeth gan gynnwys hunangyflogaeth.

Yn hytrach na chyflwyno eich anabledd fel problem, mae’n bwysig rhoi darlun positif. Mae pobl ag anabledd clyw yn aml yn bobl o gymhelliad cryf. Os gallwch gysylltu â chyflogwyr posibl gan awgrymu ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol i’w gweithle er mwyn cwrdd â'ch anghenion penodol chi, a ffordd o dalu amdanynt, bydd hyn yn dangos eich bod yn berson rhagweithiol ac yn awyddus i gynnig atebion.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Cymdeithas Frenhinol y Byddar
Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am swyddi a gwybodaeth gyffredinol.
RNID
Mae gwefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Byddar yn cynnwys ffeithlenni defnyddiol iawn, a gwybodaeth gyffredinol am, ac ar gyfer, pobl fyddar a thrwm eu clyw.
Techdis
Mae’r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata eang o ddatrysiadau technoleg addasol ar gyfer ystod o anableddau.
Graduate Prospects
Mae adran anableddau gwefan swyddogol y DU, Gyrfaoedd i Raddedigion, yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, marchnata eich hunan, ac astudiaethau achos.

Rhoi nod tudalen gyda: