Testun yn unig

CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – ANABLEDD

Safbwynt y Myfyriwr/Darpar Fyfyriwr

Diffiniadau

person ag anabledd

Mae Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd (DGSA) yn diffinio “person ag anabledd” fel unigolyn sydd â nam “corfforol” (gan gynnwys synhwyraidd) neu nam meddwl sy’n cael effaith andwyol a sylweddol tymor-hir ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.”. Golyga hyn er mwyn i unigolyn gael ei ch/gynnwys o dan ddiffiniad anabledd y Ddeddf:

  • rhaid bod arnynt nam sydd naill ai’n nam meddwl/corfforol sy’n cynnwys nam synhwyraidd (megis nam ar y clyw neu’r golwg)
  • rhaid bod y nam yn cael effaith andwyol sy’n sylweddol; e.e. heb fod yn bitw neu sy’n mynd y tu hwnt i wahaniaethau arferol rhwng pobl
  • rhaid i’r effeithiau sylweddol fod yn dymor-hir, naill ai mae’n rhaid bod yr effaith wedi para 12 mis neu’n debygol o gael effaith am 12 mis fan leiaf
  • rhaid bod yr effeithiau sylweddol tymor-hir yn cael effaith andwyol ar weithgareddau arferol o ddydd i ddydd

Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • mae’n rhaid, yn ychwanegol, yn achos rhywun sydd ag anhwylder Iechyd Meddwl, bod y salwch yn cael ei gydnabod yn dda’n glinigol er mwyn iddo gael ei gynnwys o dan ddiffiniad anabledd y Ddeddf
  • mae rhywun sydd wedi gwella o anabledd a gynhwysir o dan y diffiniad yn y Ddeddf, yn dal i ddod o dan y ddeddfwriaeth ac fe’i gwarchodir rhag anffafriaeth
  • nid yw’n dilyn o angenrheidrwydd fod unigolyn sy’n derbyn budd-daliadau anabledd hefyd yn cyrraedd meini prawf anabledd o dan y Ddeddf
  • mae’r ddeddfwriaeth yn cydnabod effaith gyfansawdd yr holl anableddau na fyddent, yn unigol, yn gyfystyr ag anabledd fel y’i diffinnir gan y Ddeddf
  • os oes gan rywun nam cynyddol megis parlys ymledol (MS) nid oes raid iddo/i ddangos bod yr anhwylder yn cael effaith sylweddol ar hyn o bryd i gael ei ch/gynnwys o dan y DdGSA. Ond mae’n rhaid bod y cyflwr yn cael peth effaith ar allu’r unigolyn i berfformio gweithgareddau o ddydd i ddydd ac mae’r cyflwr yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol yn y dyfodol

Materion Penodol

Mae gan nifer gynyddol o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn y gweithlu, ac mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd yn anelu at atal anffafrio pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithlon trin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd, ac mae’r Ddeddf yn gorfodi cyflogwyr i wneud ‘addasiadau rhesymol’ i gael gwared ag unrhyw rwystrau a all ddod i’ch rhan oherwydd eich anabledd.

Aros o hyd y mae’r cwestiwn ynglyn â phryd a sut i fynd ati i ddadlennu’ch anabledd (nid oes rhaid i chi ei ddadlennu, ond os nad ydych, ni ellwch chi hawlio gwarchodaeth y DdGSA). Ceir mwy o gyngor am ddadlennu yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl eich cyflwr i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau positif. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu gyda hyn.

DGSA a chyflogaeth

Daeth Rhan II DGSA i rym ar 2 Rhagfyr 1996 sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon i gyflogydd drin ymgeisydd neu gyflogaí’n llai ffafriol na rhai eraill oherwydd eu hanabledd.

Hyd at fis Hydref 2004, roedd y Ddeddf yn cynnwys pob cyflogydd sydd â 15 neu ragor o gyflogeion ac eithrio rhai proffesiynau, megis yr heddlu a’r lluoedd arfog.

O fis Hydref 2004, cynhwysir hefyd gyflogwyr sydd â llai na 15 cyflogaí gan gynnwys llawer iawn o’r proffesiynau a gafodd eu heithrio o’r blaen megis yr heddlu a’r gwasanaethau carchar. Fodd bynnag, ni fydd y rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn cael eu cynnwys.

O dan y Ddeddf, mae gan y cyflogydd ddyletswydd i wneud ‘addasiadau rhesymol’ os bydd ymgeisydd neu gyflogaí o dan anfantais sylweddol mewn perthynas ag eraill. Mae’r ddyletswydd yn berthnasol i nodweddion ffisegol eiddo’r cyflogwyr e.e. adeiladau, gosodiadau ac offer ac ym mhob agwedd ar gyflogi gan gynnwys, recriwtio a dethol, hyfforddiant, trosglwyddo, datblygu gyrfa a chadw cyflogeion.

Mae yn erbyn y gyfraith i gyflogydd wahaniaethu yn erbyn gweithiwr/wraig sydd ag anabledd oherwydd ei (h)anabledd.

  • yn y ffordd y byddant yn penderfynu pwy sy’n cael y swydd – er enghraifft, y ffordd y bydd y ceisiadau’n cael eu trafod, y ffordd y bydd y cyfweliad yn cael ei gynnal, neu y bydd profion yn cael eu rhoi i ymgeiswyr
  • o ran y telerau’r swydd y byddant eu cynnig – er enghraifft trwy roi contract tymor byr
  • trwy wrthod neu beidio â chynnig swydd

Os oes gan rywun sydd ag anabledd sail i gredu eu bod wedi’u trin yn anffafriol gan gyflogydd, gallant fynd â’r corff i Dribiwnlys Cyflogi i geisio am iawndal. Ar y llaw arall, gallant geisio am benderfyniad trwy broses gymodi trwy gyrff megis ACAS.

Mynediad i’r Gwaith

Cynllun cyllid y Llywodraeth yw’r rhaglen Mynediad i’r Gwaith dan nawdd Canolfan Gwaith a Mwy. Mae’n darparu cymorth ariannol tuag at y costau ychwanegol wrth gyflogi rhywun sydd ag anabledd. Mae ar gael i’r di-waith, y cyflogedig a phobl hunangyflogedig a gall fod yn gymwys i unrhyw swydd lawn-amser neu ran-amser, barhaol neu dros dro.

Mae’r math o gymorth sydd ar gael yn cynnwys

  • cyfathrebwr mewn cyfweliad swydd ar gyfer pobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw
  • darllenydd yn y gwaith ar gyfer rhywun sy’n ddall neu sydd â nam ar ei l(l)ygaid
  • gweithiwr cefnogi os bydd angen help ymarferol ar rywun oherwydd ei (h)anabledd, naill ai yn y gwaith neu wrth fynd i’r gwaith
  • addasiadau i gerbyd, neu help tuag at dalu tacsi neu gostau teithio eraill os na all rhywun ddefnyddio cludiant cyhoeddus i fynd i’r gwaith oherwydd ei (h)anabledd
  • offer (neu newidiadau i offer sydd eisoes ar gael) sy’n angenrheidiol oherwydd anabledd rhywun
  • newidiadau i adeiladau neu amgylchedd y gwaith oherwydd anabledd rhywun.

Mae’r cyllid sydd ar gael yn dibynnu ar statws cyflogi’r unigolyn ag anabledd adeg y cais.

pobl ddi-waith sy’n dechrau swydd a phob un sy’n hunangyflogedig
bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig
pobl sy’n newid swyddi
bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig
pobl gyflogedig sydd gyda chyflogwr ers chwe wythnos neu’n hirach
ni fydd Mynediad i’r Gwaith yn cyfrannu o gwbl at gostau sy’n llai na £300. Uwchlaw’r swm hwn, bydd y rhaglen yn talu hyd at 80% o’r costau hyd at £10,000 a hyd at 100% o’r costau uwchlaw £10,000
teithio i’r gwaith
bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig beth bynnag yw’r statws cyflogi
cymorth cyfathrebwr mewn cyfweliad
bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig beth bynnag yw’r statws cyflogi
gweithiwr cefnogi
bydd y rhaglen yn talu hyd at 100% o’r holl gostau cymeradwyedig beth bynnag yw’r statws cyflogi

Mae cyllid Mynediad i’r Gwaith i’w gael am hyd at dair blynedd. Adolygir amgylchiadau ac anghenion cefnogi’r unigolyn os bydd angen cyllid pellach ar ôl yr amser hwn.

Gwybodaeth Bellach

Gweinyddir rhaglen Mynediad i’r Gwaith gan Ganolfan Gwaith a Mwy. www.jobcentreplus.gov.uk/cms.asp?Page=/Home/Customers/HelpForDisabledPeople/AccesstoWork

Sylwer: nid yw cyllid Mynediad i’r Gwaith ar gael yn adolygol. Ni fydd yn ad-dalu unrhyw daliadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod tuag at addasiadau rhesymol

Lwfans Myfyriwr ag Anabledd (DGSA)

Mae’r DdGSA yn helpu talu’r costau ychwanegol y gall wynebu myfyrwyr sydd ag anabledd wrth fynychu cwrs o ganlyniad uniongyrchol i’w hanabledd. Gall y lwfansau helpu â chost cynorthwy-ydd personol anfeddygol, offer arbenigol, teithio a chostau eraill. Gellir lawrlwytho arweiniad oddi ar www.direct.gov.uk/en/DisabledPeople/EducationAndTraining/HigherEducation/DG_10034898

Getting a Job

  • Show that you are enthusiastic and have a passion for the job and the company you are applying to.
  • Work out what core competencies the organisation is looking for and then relate them to your education and experience (work and/or other interests).
  • Make sure you show yourself in the best possible light. Research each application thoroughly and present it carefully. Quality is preferable to quantity.
  • Try to develop the skills employers want through gaining work experience (paid or voluntary) and by getting involved in a variety of activities.
  • Think about targeting those employers who are actively wishing to recruit you and take advantage of any initiatives that may be available.

Gwnewch yn siwr eich bod yn manteisio’n llawn ar y cymorth a geir gan wasanaeth gyrfaoedd y brifysgol.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Directgov
amrywiaeth eang o wybodaeth am wasanaethau cyhoeddus. Dylid ei ddefnyddio ar y cyd ag «Anabledd».
Comisiwn Hawliau Anableddau
Corff annibynnol sy’n gweithio tuag at ddileu anffafriaeth yn erbyn pobl sydd ag anabledd.
Diversity Milkround
Yn anelu at hyrwyddo ymwybyddiaeth o ystyriaethau ynglyn ag amrywiaeth yn y gweithle. Mae’r wefan hefyd yn cynnig toreth o wybodaeth a chyngor wedi’u trefnu mewn chwe adran i’r rheini sy’n chwilio am swyddi a chyflogeion.
Arferion da wrth ysgrifennu geirdâu dros bobl sydd ag anableddau
Scholarship Search UK
Ysgoloriaethau academaidd i Brifysgolion a Sefydliadau Addysg yn y DU.
SKILL
Y Swyddfa Genedlaethol i Fyfyrwyr sydd ag Anableddau. Gwybodaeth fuddiol gyffredinol, yn enwedig am lwfansau i fyfyrwyr sydd ag anabledd ac am lawer iawn o elusennau ac ymddiriedolaeth grant.
Cynllun Grantiau Iarll yr Wyddfa
Helpu myfyrwyr sydd ag anableddau corfforol mewn addysg bellach ac uwch neu hyfforddiant.
Cymdeithas y Proffesiynolwyr ag Anableddau.
TechDis
Yn anelu at wella’r ddarpariaeth ar gyfer staff a myfyrwyr sydd ag anableddau yn y sectorau addysg bellach, uwch ac arbenigol trwy dechnoleg.
Ymddiriedolaeth Shaw
Elusen genedlaethol sy’n darparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl sydd o dan anfantais yn y gweithle oherwydd anabledd, afiechyd neu amgylchiadau cymdeithasol eraill.
Graduate Prospects
Mae Adran anableddau gwefan swyddogol Gyrfaoedd Graddedigion y DU yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, eich marchnata’ch hun ac achosion enghreifftiol.
Dr Job
Mae adran anableddau’r wefan hon ar gyfer gyrfaoedd graddedigion yn cynnwys adrannau ar y gyfraith a recriwtio graddedigion.
Hobsons
Mae Adran Canolfan Gyrfaoedd Graddedigion y wefan hon yn cynnwys amrywiaeth o wybodaeth i raddedigion sydd ag anabledd.

Rhoi nod tudalen gyda: