Testun yn unig

Sglerosis Ymledol (MS)

Diffiniadau

Sglerosis Ymledol

Mae Ffederasiwn Rhyngwladol Sglerosis Ymledol yn disgrifio sglerosis ymledol fel niwed i’r myelin - gwain amddiffynnol sy’n amgylchynu ffeibrau nerfol y system nerfol ganolog. Pan yw niwed yn digwydd i’r myelin, y mae hyn yn ymyrryd â negeseuon rhwng yr ymennydd a rhannau eraill o’r corff.

Mae oddeutu 1 o bob 600 o bobl yn y DU wedi derbyn diagnosis sy’n dangos bod sglerosis ymledol arnynt. Mae’r symptomau’n amrywio’n fawr gan gynnwys golwg niwlog, aelodau gwan, teimladau o gosi, ansadrwydd a blinder mawr. Fel arfer, daw’r symptomau i’r amlwg mewn oedolion ifanc (rhwng 20 a 40 oed) er efallai na wneir diagnosis pendant am flynyddoedd lawer.

Mae sawl gwahanol fath o MS gyda gwahanol batrymau i’r clefyd. O’r mathau hyn, bydd gan 1 o bob 5 y ffurf ddiniwed gydag ymosodiadau ysgafn heb anabledd parhaol, tra bydd gan 15% arall afiechyd cynyddol sy’n gwaethygu’n raddol.

Pethau i’w Hystyried

Mae gan mwy a mwy o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn eu gweithle, a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn mae trin rhywun ag anabledd yn llai ffafriol na rhywun heb anabledd yn anghyfreithlon, ac mae’r Ddeddf yn mynnu bod cyflogwyr yn gwneud 'addasiadau rhesymol' i symud unrhyw rwystrau a allai eich wynebu oherwydd eich anabledd.

Mae hyn yn eich gadael â’r cwestiwn o pryd a sut i fynd ati i ddatgelu eich anabledd (does dim rhaid i chi ddatgelu, ond os na wnewch fedrwch chi ddim hawlio amddiffyniad y Ddeddf uchod). Ceir mwy o gyngor ynglyn â datgelu yn yr adran Adnoddau, ond ystyriwch oblygiadau posibl y cyflwr o’ch safbwynt chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd ar yrfaoedd eich helpu yn hyn o beth.

Os byddwch yn gweld bod y salwch yn golygu na allwch barhau â’ch amcan gwreiddiol o ran gyrfa, meddyliwch yn ochrol am yr hyn rydych yn ei fwynhau, a sut y gallai hynny arwain at ryw fath o gyflogaeth. Mae rhai pobl yn dewis bod yn hunangyflogedig wrth iddynt weld bod hyn yn rhoi’r grym yn eu dwylo hwy i reoli eu llwyth gwaith eu hunain.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau ar hyn o bryd, gall y Ganolfan Gynghori eich helpu gydag amcangyfrif ‘gwell eich byd’, i gymharu eich sefyllfa bresennol ag un y gallai cyflogaeth ei chynnig, a’ch cynghori ynglyn â’ch hawliau pe digwydd ailwaelu.

Ceir nifer cynyddol o atebion technolegol i’r hyn a allai ymddangos yn rhwystrau i’ch dewis o yrfa. Bydd y cynllun Mynediad at Waith (Access to Work) yn darparu cyllid i gyflogwyr ar gyfer addasiadau rhesymol, ac mae hyn yn cynnwys unrhyw addasiadau angenrheidiol ar gyfer cyfweliad neu’r drefn ddewis. Yn ogystal, gall y cynllun Mynediad at Waith ddarparu grantiau ar gyfer addasiadau i adeiladau er mwyn cael gwared â rhwystrau a allai wynebu gweithwyr sy’n gyfyngedig eu symudedd.

Yn hytrach na darlunio’ch anabledd fel problem, mae’n bwysig eich bod yn rhoi darlun positif. Os gallwch gysylltu â chyflogwyr posibl ac awgrymu ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol i’w gweithle i ddiwallu eich anghenion penodol chi, ynghyd â ffordd o dalu amdanynt, bydd hyn yn dangos eich bod yn berson rhagweithiol ac yn un sy’n awyddus i gynnig atebion.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Cymdeithas Sglerosis Ymledol
Elusen Brydeinig sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth am sglerosis ymledol gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth.
Canolfan Adnoddau Sglerosis Ymledol
Mae’n cynnwys ystod o wybodaeth am sglerosis ymledol gan gynnwys byrddau negeseuon ac ystafelloedd sgwrsio.
Ffederasiwn Rhyngwladol Sglerosis Ymledol
Gwefan ryngwladol, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wledydd penodol.
Graduate Prospects
Mae adran anableddau gwefan swyddogol y DU, Gyrfaoedd i Raddedigion, (Graduate Careers) yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, marchnata eich hunan ac astudiaethau achos.

Rhoi nod tudalen gyda: