Testun yn unig

Cyfyngedig wrth Symud o Gwmpas

Diffiniadau

Cyfyngedig wrth Symud o Gwmpas

Mae nifer o gyflyrau sy’n gallu arwain at fod yn gyfyngedig wrth symud o gwmpas, ond ym mhob achos, mae gallu’r unigolyn i symud o gwmpas heb gymorth yn cael ei leihau. Mewn rhai achosion gall hyn fod yn sefyllfa dros dro, i bobl eraill, agwedd barhaol ar eu bywydau yw hi.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf sylwyd ar y rhwystrau ffisegol sy’n bodoli i bobl sy’n gyfyngedig wrth symud o gwmpas, ac o ganlyniad i’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae rampiau, lifftiau cadair olwyn a nodweddion eraill i hwyluso mynediad/hygyrchedd yn disodli llawer iawn o’r rhwystrau hyn.

Pethau i’w hystyried

Mae gan mwy a mwy o gyflogwyr bolisïau sy’n annog amrywiaeth yn y gweithlu a nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw atal gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hanabledd. Erbyn hyn, mae’n anghyfreithiol i drin rhywun sydd ag anabledd yn llai ffafriol na rywun heb anabledd ac mae’r Ddeddf yn gosod gofynion ar gyflogwyr i wneud 'addasiadau rhesymol' i symud unrhyw rwystrau y gallech ddod ar eu traws oherwydd eich anabledd.

Mae hyn yn gadael y cwestiwn i chi pryd a sut i fynd ati i ddatgelu’ch anabledd (does dim rhaid i chi ei ddatgelu ond os na fyddwch, fedrwch chi ddim hawlio cael eich gwarchod gan y Ddeddf). Mae mwy o gyngor am ddatgelu yn yr adran Adnoddau, ond meddyliwch am oblygiadau posibl eich cyflwr i chi, a chanolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol. Gall ymgynghorydd gyrfaoedd eich helpu â hyn.

Os byddwch yn gweld bod y salwch yn golygu na allwch barhau â’ch amcan gwreiddiol o ran gyrfa, meddyliwch yn ochrol am yr hyn rydych yn ei fwynhau, a sut y gallai hynny arwain at ryw fath o gyflogaeth. Mae rhai pobl yn dewis bod yn hunangyflogedig wrth iddynt weld bod hyn yn rhoi’r grym yn eu dwylo hwy i reoli eu llwyth gwaith eu hunain.

Os ydych yn hawlio budd-daliadau ar hyn o bryd, gall y Ganolfan Gynghori eich helpu gydag amcangyfrif ‘gwell eich byd’, i gymharu eich sefyllfa bresennol ag un y gallai cyflogaeth ei chynnig, a’ch cynghori ynglyn â’ch hawliau pe digwydd ailwaelu.

Bellach ceir mwyfwy o ffyrdd technolegol i ddatrys unrhyw rwystrau tybiedig i’ch dewis chi o yrfa. Gall y cynllun Mynediad i Waith roi arian ar gyfer addasiadau rhesymol i gyflogwyr, ac mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau angenrheidiol ar gyfer cyfweliad a’r broses ddewis. Gall y cynllun Mynediad i Waith hefyd roi grantiau ar gyfer addasiadau corfforol i adeiladau i symud unrhyw rwystrau sydd yno i weithwyr sydd ond yn medru symud ychydig.

Yn hytrach na darlunio’ch anabledd fel problem, mae’n bwysig eich bod yn rhoi darlun positif. Os gallwch gysylltu â chyflogwyr posibl ac awgrymu ffyrdd o wneud addasiadau rhesymol i’w gweithle i ddiwallu eich anghenion penodol chi, ynghyd â ffordd o dalu amdanynt, bydd hyn yn dangos eich bod yn berson rhagweithiol ac yn un sy’n awyddus i gynnig atebion.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
Techdis
Mae’r wefan hon yn cynnwys cronfa ddata helaeth o atebion trwy dechnoleg addas ar gyfer amrywiaeth o anableddau.
Graduate Prospects
Mae adran anableddau gwefan swyddogol Gyrfaoedd Graddedigion y DU yn cynnwys adrannau ar y gyfraith, marchnata’ch hun ac astudiaethau achos.

Rhoi nod tudalen gyda: