Safbwynt Graddedigionr
Mae’r eirfa sydd ar gael er mwyn trafod materion sy’n ymwneud â hil ac ethnigrwydd yn aml yn peri cryn ddadlau, a chan hynny, yn tueddu i fod yn aneglur ac annigonol.
Gall yr un gair olygu pethau gwahanol i wahanol bobl. Felly, gall term sy’n ddi-ddadl ac yn bositif i un person fod yn amheus ac yn wrthyn i berson arall. Ar ben hynny, ceir yn fynych bryderon am gywirdeb gwleidyddol.
Ymhellach, y mae ystyron a goblygiadau geiriau yn newid dros gyfnod o amser. Er enghraifft, ar un adeg, ystyrid ‘lliw’ yn dderbyniol a ‘du’ yn dramgwyddus. Heddiw, fel arall y mae hi. Mae ‘du’ yn gwbl dderbyniol ac yn derm a ffafrir ar gyfer y rhan fwyaf o bobl o dras Affricanaidd neu Garibïaidd. Fodd bynnag, nid yw ‘lliw’ bellach yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun.
Mae’n bwysig nodi bod y ffurflen Cyfle Cyfartal, a anfonir gyda phecyn cais yn aml, i’w defnyddio at bwrpasau monitro yn unig ac nad yw’n cael ei defnyddio fel rhan o’r proses dewis.
Mae’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (1976) yn gwneud gwahaniaethu ar sail hil, lliw, cenedligrwydd (gan gynnwys dinasyddiaeth), neu darddiad ethnig neu genedlaethol, yn anghyfreithlon. Mae’n amddiffyn pobl o bob grwp ethnig, gan gynnwys pobl wynion. Felly, y mae gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu bod, er enghraifft, yn Gymraeg, Ffrangeg neu’n meddu ar acen Albanaidd, yn anghyfreithlon. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu cyflogaeth gan gynnwys hysbysebu, dewis a recriwtio.
Nid yw anffafriaeth hiliol yr un fath â rhagfarn hiliol – mae’r Ddeddf yn ymdrin â gweithredoedd a chanlyniadau gweithredoedd, yn hytrach na barnau neu gredoau pobl. Felly, nid oes raid profi bod rhywun wedi bwriadu gwahaniaethu yn eich erbyn – y mae angen i chi ddangos eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol o ganlyniad i’r hynny a wnaethant.
Os ydych yn teimlo y gwahaniaethwyd yn eich erbyn am resymau hiliol, y mae gennych hawl i fynd â’ch cwyn gerbron llys sirol neu dribiwnlys cyflogaeth. Serch hynny, ceir terfynau amser ar gyfer cofrestru cwyn. Gall anffafriaeth hiliol fod yn anodd i’w brofi. Gall y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (CRE) ddarparu cymorth a chyngor ynglyn â beth i’w wneud nesaf.
Mae Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) yn gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred mewn gweithleoedd drwy Brydain benbaladr. Maent yn cwmpasu pob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys recriwtio, tâl ac amodau gwaith, a diswyddo.
Mae’r gyfraith yn gwarchod pobl rhag anffafriaeth ar sail crefydd neu gred mewn cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol. Nid yw’n caniatáu:
Mae’r gyfraith hefyd yn ymdrin â chanfyddiadau o grefydd neu gred. Felly, y mae’n gwarchod pobl y rhagdybir – yn gam neu’n gymwys – fod ganddynt grefydd neu gred arbennig.
Ceir tystiolaeth o newid yn y modd y canfyddir ac y gwerthfawrogir cyflogedigion lleiafrif-ethnig gan gyflogwyr. Mae cyflogwyr yn dechrau gwerthfawrogi manteision cael gweithlu amrywiol, ac y mae busnesau yn sylweddoli bod gweithlu amrywiol yn fwy llwyddiannus os ydynt yn adlewyrchu’r gymuned y maent yn ei gwasanaethu.
Drwy fynd ati i dargedu cwmnïau sy’n datgan eu bod yn dymuno recriwtio unigolion talentog ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hethnigrwydd, byddwch yn sicrhau eich bod yn cael cyfle teg i hyrwyddo eich sgiliau a’ch priodoleddau. Mae sawl ffordd o adnabod y cwmnïau hyn:
Mae llawer o fentrau ar gael i leiafrifoedd ethnig lle mae cyflogwyr yn awyddus i’ch targedu (gweler yr adran adnoddau).
Yn fynych, myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig yw’r bobl cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i brifysgol, a hefyd y cyntaf i geisio dod o hyd i swydd ar gyfer graddedigion. Gall hyn fod yn anfantais gan nad oes ganddynt, yn aml, y rhwydweithiau a’r profiad a fwynheir gan bobl ifanc mewn swyddi o’r fath sy’n dod o gefndiroedd traddodiadol.
Mae’n werth i chi gysylltu â gwasanaeth gyrfaoedd y brifysgol i holi ynghylch mentrau sydd ar gael yn benodol ar gyfer myfyrwyr a graddedigion o leiafrifoedd ethnig. Bydd y mentrau hyn yn nodi cyflogwyr sydd â diddordeb yn eich recriwtio yn ogystal â chynnig cymorth rhagorol. Mae cynlluniau ledled y wlad yn cynnwys Mentora Amrywioldeb Addysgu Uwch (Diversity Mentoring Higher Education) a’r Consortiwm Mentora Cenedlaethol (National Mentoring Consortium). Mae’r ddau yn cynnig rhaglenni sy’n cysylltu myfyrwyr â chyflogwyr.
Cadwch eich llygaid yn agored am ffeiriau arbenigol ar gyfer myfyrwyr a graddedigion o leiafrifoedd ethnig. Mae cyflogwyr sy’n eu mynychu yn dangos eu bod yn awyddus i ddenu lleiafrifoedd ethnig talentog i’w cwmni.
Ceir hefyd gyrff sy’n targedu sectorau penodol lle mae nifer y staff o leiafrifoedd ethnig yn isel, ac y mae gan rai cwmnïau gynlluniau i ddenu myfyrwyr a graddedigion o leiafrifoedd ethnig – er enghraifft, y mae gan yr adran Cyllid Gwladol raglen hyfforddiant yn ystod yr haf (http://www.inlandrevenue.gov.uk/talent/offer-summer.htm).
Byddwch yn barod i werthu eich hunain yn effeithiol fel y gallwch herio unrhyw stereoteipiau negyddol sy’n bodoli o bosibl. Dangoswch yn eich cais a’ch cyfweliad eich bod yn meddu ar y sgiliau priodol a’ch bod yn frwdfrydig ynghylch y swydd yr ydych yn ceisio amdani. Mae’r rhan fwyaf o’r rheini sy’n cyflogi graddedigion hefyd yn edrych am dystiolaeth o ystod o sgiliau ‘meddal’, yn ogystal â gradd.
Dangoswch eich bod yn llawn brwdfrydedd a bod gennych awch am y swydd a’r cwmni yr ydych yn gwneud cais iddo.
Ceisiwch weithio allan beth yw’r cymwysterau craidd y mae’r cwmni yn edrych amdanynt, ac yna cysylltwch hwy â’ch addysg a’ch profiad (gwaith ac/neu ddiddordebau eraill).
Sicrhewch eich bod yn rhoi darlun ffafriol o’ch hunan. Ymchwiliwch i bob cais yn drylwyr, a chyflwynwch ef yn ofalus. Safon yn hytrach na swm!
Ceisiwch ddatblygu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn eu dymuno drwy gyfrwng profiad gwaith (cyflogedig neu wirfoddol) a thrwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.
Meddyliwch am dargedu’r cyflogwyr hynny sy’n dymuno eich denu, a manteisiwch ar unrhyw fentrau sydd ar gael.
GWNEWCH YN SIWR EICH BOD YN MANTEISIO I’R EITHAF AR Y CYMORTH A GYNIGIR GAN WASANAETH GYRFAOEDD Y BRIFYSGOL.
Rhoi nod tudalen gyda: