Safbwynt Graddedigion
O dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr, y mae’n rhaid datgan pob euogfarn ar gyfer rhai galwedigaethau, heb ystyried pa un ai ydynt wedi eu dirymu (spent) o dan delerau’r Ddeddf ai peidio. Dylai ffurflen gais am swydd sydd wedi ei heithrio o’r Ddeddf wneud y pwynt yma yn gwbl glir.
Pan yn datgelu euogfarn, y mae’n bwysig eich bod yn rhoi darlun cadarnhaol ohonoch eich hunain. Da o beth fyddai egluro’r amgylchiadau a arweiniodd at y trosedd ac nad sydd bellach yn berthnasol (e.e. trafferthion ariannol), yn ogystal ag amlinellu ffactorau sy’n lleihau effaith y trosedd (e.e. blynyddoedd wedi mynd heibio ers iddo ddigwydd).
Hyrwyddwch eich galluoedd i gyflawni’r swydd yn llwyddiannus drwy amlygu sgiliau a phrofiadau perthnasol. Ceisiwch ddarbwyllo’r cyflogwr nad oes unrhyw risg ynghlwm wrth eich cyflogi. Mae hyn yn arbennig o effeithiol pan nad yw’r trosedd yn berthnasol i’r swydd. Canolbwyntiwch ar agweddau positif – dangoswch sut y bu ichi elwa ar brofiadau blaenorol a thanlinellwch eich cyflawniadau ers yr euogfarn. Mae’n bwysig nad ydych yn caniatáu i’r trosedd reoli eich ffurflen gais.
Yn ogystal, y mae angen i chi benderfynu pryd yn y proses ymgeisio y byddwch yn datgelu eich euogfarn. Mae hwn yn benderfyniad personol ac yn dibynnu ar y math o swydd yr ydych yn ceisio amdani, y proses ymgeisio a’r math o euogfarn.
Amcangyfrifwyd bod pumed ran o’r boblogaeth sy’n gweithio yn meddu ar gofnod troseddol – y mae hyn yn gyfran sylweddol o’r gweithlu dichonol. Mae cael swydd yn rhan bwysig o ailsefydlu unigolion yn llwyddiannus. Cydnabyddir bod methiant i gael gwaith cyflogedig yn un o’r prif resymau dros ail-droseddu, ond gall trosedd beri i gyflogwyr ymwrthod ag ymgeiswyr. Serch hynny, y mae mwyafrif llethol y cyn-droseddwyr sy’n gweithio yn gymwys ac yn ddibynadwy, ac nid ydynt yn fygythiad i’w cydweithwyr, i’w cwsmeriaid, nac i’r busnesau y maent yn gweithio iddynt.
Yn y gorffennol, nid oedd gofyn am ddatgelu euogfarnau yn rhan o arferion recriwtio llawer o gwmnïau. Fodd bynnag, y mae cyflwyno Datgeliadau Safonol ac Uwch wedi peri bod mwy o gyflogwyr yn holi ynghylch cofnodion troseddol. Pan ddaw’r gwiriad Datgeliad Sylfaenol i rym (annhebygol o ddigwydd cyn 2005), bydd cynnydd enfawr yn nifer y cyflogwyr a fydd yn gofyn am y cyfryw gofnodion.
Mae’r Ddeddf hon yn caniatáu i euogfarnau troseddol gael eu hanwybyddu neu eu hystyried fel rhai sydd wedi eu dirymu ar ôl cyfnod ailsefydlu. Nid oes raid datgan y fath euogfarn ac ni all fod yn rheswm dilys dros ddiswyddo neu drin rhywun yn anffafriol yn y gwaith. Ar ôl i’r cyfnod ailsefydlu ddirwyn i ben, nid oes raid i gyn-droseddwr grybwyll euogfarn pan yn ceisio am swydd. Os y gofynnir i unigolyn am euogfarnau blaenorol, gall ef/hi ddweud ‘na’ os yw’r euogfarnau bellach yn ddi-rym ac os nad yw’r swydd y ceisir amdani wedi ei heithrio o’r Ddeddf. Yn gyffredinol, y cyfnod ailsefydlu ar gyfer dedfryd o hyd at chwe mis yw saith mlynedd, ac ar gyfer dedfryd o rhwng chwe mis a dwy flynedd a hanner, y mae’r cyfnod yn ddeng mlynedd.
Nid yw unrhyw drosedd sy’n dwyn dedfryd o ragor na dwy flynedd a hanner mewn carchar fyth yn cael ei ddirymu. Mae rhai galwedigaethau yn mynnu bod pob euogfarn yn cael ei datgan, heb ystyried pa un ai ydyw wedi ei dirymu o dan delerau’r Ddeddf a’i peidio. Bydd pobl a chanddynt euogfarnau yn dal i fedru ymgeisio am swyddi yn y meysydd hyn, ond bydd cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth i’r wybodaeth droseddol, ac ni fydd rhai meysydd cyflogaeth yn agored i unigolion gyda rhai mathau o euogfarnau. Yn gyffredinol, y mae’r galwedigaethau canlynol wedi eu heithrio o’r Ddeddf:
Rhan 5 o Ddeddf yr Heddlu:
Mae unrhyw un sydd angen cyflawni gwiriadau ‘Datgeliad Safonol neu Uwch’ yn gorfod dod yn gorff cofrestredig gyda’r Criminal Records Bureau. Fel dewis arall, gallant wneud archwiliadau drwy gorff cyd-drefnol cofrestredig. Mae cyrff cofrestredig yn gorfod cydymffurfio â chôd ymarfer llym.
Mae’r ‘Datgeliad Safonol’ yn berthnasol i swyddi sydd wedi eu heithrio o’r Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr. Mae’r Datgeliad yn dangos euogfarnau sydd mewn grym ac wedi eu dirymu yn ogystal â rhybuddion, ceryddon a rhybuddio terfynol a gedwir ar gyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu. Os nad oes cofnod troseddol, y mae’n dweud hynny. Mae’r Datganiad yn cael ei anfon i’r ymgeisydd, a chopi ohono yn cael ei anfon i’r cyflogwr neu gorff arall a gofrestrwyd i dderbyn yr wybodaeth hon.
Mae’r ‘Datgeliad Uwch’ yn berthnasol i swyddi sy’n ymwneud â gofalu am, hyfforddi, goruchwylio neu fod yr unig un sy’n gofalu am blant neu oedolion sy’n agored i niwed. Mae hefyd yn berthnasol i feddygon, deintyddion, fferyllwyr ac optegwyr. Mae’r Datgeliad yn dangos yr un manylion â Datgeliad Safonol ac, ambell waith, gall hefyd ddangos gwybodaeth nad sy’n ymwneud ag euogfarn o gofnodion heddlu lleol – gwybodaeth y tyb prif heddwas ei fod yn berthnasol i fath arbennig o waith. Mae hefyd yn dweud os nad oes cofnod yn bodoli.
Rhoi nod tudalen gyda: