Safbwynt Graddedigion
Daeth y Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogi (Crefydd neu Gredo) i rym ar 1af Rhagfyr 2003. Er mwyn dod o dan rawd y rheoliadau, dylai crefydd neu gredo fodloni un neu ragor o’r meini prawf canlynol:
Nid yw’r Rheoliadau yn gofyn i unigolion ddatgelu’u crefydd neu gredo i gyflogwr neu ddarpar-gyflogwr. Nid oes dim yn y ddeddfwriaeth sy’n dweud bod yn rhaid i gyflogeion posibl ddatgelu eu crefydd neu gredoau. Gall cyflogwr wahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn unigolyn ar sail y grefydd neu’r gredo honno hyd yn oed lle nad yw’r cyflogwr yn ymwybodol o’r grefydd neu’r gredo honno.
Penderfyniad personol yw datgeliad. Gall fod yn briodol i rai sefyllfaoedd ond yn amhriodol mewn rhai eraill. Os yw’ch crefydd neu’ch credo’n debygol o effeithio ar eich arferion gwaith, efallai y bydd yn rhaid i chi gael sicrwydd y gall yr anghenion hyn gael eu diwallu. Mewn rhai achosion, gall fod yn amlwg o’ch golwg (dillad, gemwaith ayyb) eich bod yn arddel credo arbennig. Yn yr achosion hyn, gall fod yn briodol i ymdrin â’r pwnc mewn cyfweliad. Os ydych yn dewis i ddilyn y llwybr hwn, ceisiwch egluro’ch gweithgareddau (gweddïo, gwyliau, dillad) mewn ffordd gadarnhaol a heb achosi gwrthdaro. Trwy wneud hyn, byddwch yn gweithredu i herio unrhyw bryderon di-sail a all fodoli.
Ni ddylai cwestiwn sy’n berthnasol i grefydd neu gredo gael ei gynnwys ar ffurflen gais neu mewn cyfweliad ond os oes angen galwedigaethol dilys ar gyfer y swydd.
Mae’n bwysig nodi bod y ffurflen Cyfleoedd Cyfartal a fydd yn aml yn dod ynghyd â’r ffurflen gais at ddibenion monitro Cyfleoedd Cyfartal yn unig ac nid yw’n cael ei defnyddio fel rhan o’r broses ddethol.
Cafwyd y ffigyrau canlynol yn y DU yn sgil Cyfrifiad 2001 a hynny o 42 miliwn o ymatebion:
Er bod deddfwriaeth cysylltiadau hiliol flaenorol wedi darparu rhywfaint o ddiogelwch i rai grwpiau crefyddol, ni fu diogelwch cynhwysol arbennig erioed i’r rhan fwyaf o grefyddau na chredoau. Ar hyn o bryd, mae arferion gorau ar ran y cyflogwr yn rhagdybio bod crefydd neu gredo’r unigolyn yn cael eu cynnwys o dan y Rheoliadau.
Dangoswyd mewn Arolwg gan y Swyddfa Gartref yn 2001 mai cyflogaeth yw un o’r tri maes yn ein bywydau lle mae pobl o gyrff crefyddol yn fwyaf tebygol o wynebu triniaeth annheg. Y ddau arall oedd addysg a’r cyfryngau.
Daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogi (Crefydd neu Gredo) i rym ar 1af Rhagfyr 2003. Yn y bôn, diogelir pobl sy’n arddel unrhyw grefydd neu gredo yn y gweithle rhag gwahaniaethu, uniongyrchol ac anuniongyrchol, aflonyddu ac erledigaeth ar sail y grefydd neu’r gredo honno. Mae’r gyfraith yn cynnwys pob agwedd ar gyflogi, o geisio am swydd trwodd i gael geirda wrth ymadael â swydd. Mae hefyd yn cynnwys hyfforddiant, dyrchafiad, pensiynau a hawliau gweithwyr/wragedd contract. Mae’r rheoliadau hefyd yn cynnwys gwahaniaethu ar sail crefydd ganfyddedig. Mae arddel crefydd arbennig ai peidio mewn gwirionedd yn amherthnasol os byddant yn cael eu hanffafrio oherwydd bod rhywun arall yn meddwl neu’n rhagdybio hynny.
Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn digwydd lle y bydd y naill unigolyn yn trin y llall yn llai ffafriol oherwydd ei ch/grefydd neu gredo. Mae’n cynnwys triniaeth fel aflonyddu, methiant i ddyrchafu, diffyg cyfleoedd hyfforddiant a diswyddo.
Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn digwydd pryd y bydd cyflogwr yn gweithredu polisi neu arferiad sy’n rhoi pobl sy’n arddel crefydd neu gredo arbennig o dan anfantais o’u cymharu â phobl eraill. Er enghraifft, gofyn iddynt ddod i gysylltiad ag alcohol neu i weithio ar y Sul.
Yn yr un modd â chyfreithiau gwahaniaethu eraill, mae’r rheoliadau’n dweud bod y cyflogwr yn gyfrifol am wahaniaethu a wneir gan ei gyflogeion.
Mae’r ddeddfwriaeth yn darparu ar gyfer:
Caniateir rhai eithriadau o dan amgylchiadau penodedig iawn. Er enghraifft, byddai Ysgol Gatholig yn gallu rhoi achos gerbron dros gyflogi pennaeth Catholig yn unig ond byddent yn annhebygol o gyfiawnhau hyn yn achos staff ategol megis glanhawr/wraig neu weithiwr/wraig sy’n gofalu am diroedd yr ysgol.
Mae cyflogwyr yn dechrau gwerthfawrogi’r manteision o gael gweithlu amrywiol ac mae busnesau’n sylweddoli bod gweithlu amrywiol yn fwy llwyddiannus os bydd yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Drwy dargedu cwmnïau sy’n dangos eu bod yn dymuno recriwtio unigolion dawnus beth bynnag bo’u cefndir, byddwch yn sicrhau eich bod yn cael cyfle teg i hyrwyddo’ch sgiliau a phriodweddau. Mae sawl ffordd o adnabod y cyflogwyr hyn:
Gall myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol fod y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i brifysgol a hefyd y rhai cyntaf i geisio cael hyd i swydd raddedig. Gall hyn fod yn anfantais oherwydd bod rhwydweithiau a phrofiad swyddi uwchraddedig sy’n cael eu mwynhau gan bobl ifainc o gefndiroedd traddodiadol yn aml yn ddiffygiol.
Be prepared to market yourself effectively so that you can challenge any negative stereotypes that may exist. Show in your application and at interview that you have the skills and are enthusiastic about the job you are applying for. Most graduate employers are also looking for evidence of a range of soft skills, in addition to the possession of a degree.
Gwnewch yn siwr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich gwasanaeth gyrfaoedd yn y brifysgol.
Rhoi nod tudalen gyda: