Safbwynt Graddedigion
Mae rhiant sengl yn rhiant ag un plentyn neu fwy sy’n weddw, wedi ysgaru neu wahanu, neu’n berson sengl yn magu plant. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2003), mae bron i un o bob pedwar o deuluoedd Prydain yn deuluoedd rhiant unigol.
Mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gofyn am dystiolaeth eich bod yn gyfrifol am blentyn os ydych yn gwneud cais am absenoldeb rhiant. Hwyrach y bydd angen i chi ddangos tystysgrif geni, papurau mabwysiadu neu bapurau cyfreithiol eraill yn ymwneud â’r plentyn er mwyn profi hyn.
Nid oes rhaid i chi ddweud wrth gyflogwr neu ddarpar gyflogwr bod gennych chi blant neu’ch bod yn bwriadu cael plant yn y dyfodol. Os yw’r cyflogwr yn gofyn i chi yn ystod y cyfweliad a ydych chi’n feichiog neu’n bwriadu cael plant, mae hyn yn dystiolaeth gadarn bod y cyflogwr yn torri’r ddeddf gwahaniaethu ar sail rhyw.
Chi sy’n penderfynu pryd rydych chi am hysbysu’ch cyflogwr eich bod yn feichiog. Yn ôl y gyfraith, nid oes rhaid i chi hysbysu’ch cyflogwr nes eich bod yn hysbysu am absenoldeb a thaliadau mamolaeth yn y 15fed wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi. Fodd bynnag, bydd angen dweud wrth y cyflogwr er mwyn i chi fanteisio ar hawliau fel amser o’r gwaith gyda thâl ar gyfer gofal cynenedigol a buddiannau iechyd a diogelwch.
Nid oes rhaid i chi ddweud wrth gyflogwr eich bod yn feichiog yn ystod cyfweliad am swydd. Byddai cyflogwr yn gwahaniaethu ar sail rhyw pe bai’n gwrthod cyflogi menyw oherwydd ei bod yn feichiog. Cofiwch na fyddwch yn derbyn Tâl Mamolaeth Statudol os ydych chi’n newid eich swydd yn ystod cyfnod eich beichiogrwydd, ond hwyrach y cewch Lwfans Mamolaeth.
Nid yw rhieni sengl yn ddatblygiad diweddar - yn ystod y ganrif ddiwethaf roedd y ganran o rieni sengl yn gymharol ddigyfnewid. Y prif newid yw’r hyn sy’n achosi teuluoedd un rhiant. Ym 1900, marwolaeth rhiant oedd prif achos teuluoedd un rhiant, ond erbyn heddiw, ysgariad yw un o’r prif achosion.
Mae’r maes hawliau cyflogaeth yn un cymhleth iawn, ac mae pob achos yn wahanol. Os nad ydych chi’n siŵr os yw rhai hawliau yn berthnasol, dylech gysylltu â chynghorydd arbenigol – gwelwch yr adran adnoddau am fanylion.
Absenoldeb rhiant yw hawl mamau a thadau i gael amser o’r gwaith er mwyn gofalu am blentyn. Gan mai absenoldeb di-dâl yw absenoldeb rhiant, nid oes dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i’ch talu yn ystod y cyfnod hwn, er mae’n bosib y bydd rhai yn parhau i wneud hynny.
Mae gan weithiwyr o bob math yr hawl i gael amser ‘rhesymol’ o’r gwaith er mwyn cynorthwyo aelodau’r teulu neu’r sawl sy’n dibynnu arnyn nhw am gymorth, mewn argyfwng. Ni chaiff gweithwyr gymryd mwy o amser o’r gwaith na’r hyn sydd ei angen arnynt i ddatrys y broblem – nid yw’r gair ‘rhesymol’ wedi’i ddiffinio gan y gyfraith yn yr achos hwn.
Mae gan rieni plant dan chwech oed a rhieni plant anabl dan 18 oed yr hawl i wneud cais i weithio’n hyblyg. Mae dyletswydd statudol ar gyflogwyr i ystyried ceisiadau o’r fath o ddifrif. Fodd bynnag, nid oes hawl awtomatig gan rywun i weithio’n hyblyg. Bydd amgylchiadau’n siŵr o godi lle nad oes modd i gyflogwr addasu ei batrymau gweithio yn unol â gofynion y gweithiwr.
Mae manteision gweithio hyblyg i fusnesau bellach yn cael eu cydnabod yn eang. Mae yna dystiolaeth glir bod trosiant staff ac absenoldeb yn cael eu lleihau a bod brwdfrydedd ac ymroddiad yn gwella mewn sefydliadau lle mae gweithwyr yn cael yr hawl i weithio’n hyblyg. Gall patrymau ac amodau gweithio gwell fod yn ffordd dda o ddenu a chadw gweithlu amrywiol.
Mae’r manylion llawn ar gael yn y canllawiau cynhwysfawr ‘Flexible Working – the right to request and the duty to consider: guidance for employers and employees’.
I gael manylion llawn am unrhyw gymorth ariannol sydd ar gael, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol. Maen nhw’n cyhoeddi arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau i’r sawl sy’n magu plant.
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol hefyd yn gallu darparu cyfrifiad ‘gwell eich byd’ i ddangos effeithiau dychwelyd i waith llawn amser neu ran-amser yn lle derbyn budd-daliadau.
Dylech hefyd sicrhau eich bod yn hawlio unrhyw Gredydau Treth Plant sy’n ddyledus i chi.
Mae Lwfans y Gwarcheidwad yn fudd-dâl di-dreth sy’n cael ei dalu i rywun sy’n gofalu am blentyn sydd wedi colli ei rieni. Dan rai amgylchiadau mae modd talu’r lwfans os mai un rhiant yn unig sydd wedi marw. Y Swyddfa Budd-daliadau Plant sy’n gweinyddu’r lwfans.
Oes. Dylech chi ddilyn trefn arferol eich cyflogwr o ran rhoi gwybod am salwch. Mae gennych yr hawl i dderbyn tâl salwch yn unol â pholisi arferol eich cyflogwr. Dylai’ch cyflogwr gofnodi unrhyw absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd ar wahân i gyfnodau eraill o absenoldeb salwch, ac ni ddylai gael ei gynnwys yng nghyfanswm eich absenoldeb salwch at ddibenion disgyblu neu ddileu swydd. Mae’n anghyfreithlon i’ch cyflogwr eich diswyddo neu’ch trin yn llai ffafriol oherwydd eich beichiogrwydd neu oherwydd eich bod wedi cymryd absenoldeb salwch yn ystod eich beichiogrwydd. Nid yw’ch cyflogwr yn gallu gweithredu absenoldeb mamolaeth oni bai eich bod yn cael amser o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd yn y pedair wythnos cyn dyddiad disgwyliedig eich babi.
Dylech chi hysbysu’ch cyflogwr am eich bwriad i fabwysiadu cyn gynted ag y cewch chi gymeradwyaeth.
Mae gennych chi hawl i 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu safonol a 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu ‘ychwanegol’ os ydych chi wedi gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos erbyn yr wythnos i chi glywed eich bod wedi’ch paru â phlentyn i’w fabwysiadu. Telir Tâl Mabwysiadu Statudol am gyfnod o 26 wythnos. Rhaid i chi hysbysu’ch cyflogwr am ddyddiad arfaethedig eich cyfnod o absenoldeb ar ôl cael eich paru â phlentyn. Mae gennych chi’r hawl hefyd i absenoldeb rhiant ac amser o’r gwaith ar gyfer dibynyddion.
Mae’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol yn rhaglen arbennig sydd wedi’i sefydlu gan y llywodraeth er mwyn helpu rhieni unigol sydd am weithio. Mae’r rhaglen ar gael i rieni unigol sy’n gweithio dan 16 awr yr wythnos neu i rai nad ydyn nhw’n gweithio o gwbl sydd â phlentyn ieuengaf dan 16 oed.
I gael mwy o wybodaeth am y Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol neu i drefnu sgwrs gyda chynghorydd personol, ffoniwch y llinell wybodaeth ar 0800 868 868, galwch yn eich Canolfan Byd Gwaith leol neu ewch i www.jobcentreplus.gov.uk/jcpwelsh/Customers/outofworkhelplookingforwork/gettingjobready/programmes/NewDeal/Y_Fargen_Newydd_ar_gyfer_Rhieni_Unigol/index.html.
Rhoi nod tudalen gyda: