Testun yn unig

CYFARWYDDIADAU AR AMRYWIOLDEB – ANFANTAIS GYMDEITHASOL

Safbwynt Graddedigion

Diffiniadau

Dosbarth Cymdeithasol

Gall diffinio dosbarth cymdeithasol fod yn dasg anodd mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â’r maes yma.

Anfantais Gymdeithasol

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n diffinio anfantais gymdeithasol fel a ganlyn: lle mae pobl, grwpiau neu gymunedau’n dioddef amlamddifadedd, yn fynych lle mae incwm isel, diweithdra, cyrhaeddiad addysgol a phresenoldeb addysgol isel, iechyd gwael, tai gwael ac arwahaniad ffisegol yn dod at ei gilydd. Yn fynych, bydd yn cael ei nodweddu gan deimlad o stigma ac anobaith ymhlith dioddefwyr, sy’n cael ei amlygu ar ffurf camddefnyddio alcohol a chyffuriau, trosedd ac ofn trosedd, lefelau salwch hir neu blant yn cael eu magu’n wael. Mae achosion anfantais gymdeithasol yn gymhleth ac nid oes yr un ateb syml iddi.

Materion penodol

Bydd Sefydliadau Addysg Uwch yn defnyddio nifer o ffactorau er mwyn pennu pwy sy’n dod o grwpiau cymdeithaso-economaidd tan-gynrychioledig. Mae’r rhain yn cynnwys galwedigaethau rhieni, cod post, lefel cyrhaeddiad addysgol eich rhieni neu fynychu ysgol benodol. Nid oes yr un o’r rhain yn ddangosydd cywir iawn o gefndir cymdeithasol. Mae’r unigolion sy’n syrthio oddi mewn i’r dosbarthiad hwn yn amrywiol tu hwnt. Fel y cyfryw, gall rhai o’r pwyntiau a godir isod fod yn berthnasol i chi, tra na fydd rhai eraill yn gymwys.

Yn ystod y ddau ddegawd ddiwethaf, mae darparu addysg yn y DU wedi ehangu’n sylweddol. Ceir sawl menter sydd wedi’u hanelu at ddenu pobl o gefndiroedd anhraddodiadol. Fodd bynnag, er gwaethaf cynnydd cyffredinol yn y gynrychiolaeth ar draws pob grwp cymdeithasol, mae’r bwlch rhwng lefelau cyfranogaeth pobl ifainc gyfoethog a’r rhai sydd heb fod mor freintiedig wedi parhau. Felly, er y bu cynnydd yn niferoedd y rhai sy’n mynd i brifysgolion o’r cefndiroedd sydd heb fod yn draddodiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu pobl ifainc o’r fath yn mwynhau llai o lwyddiant mewn addysg uwch yn ôl ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree.

Y prif resymau am hyn yw:

  • Mae myfyrwyr sy’n dod o gefndiroedd difreintiedig yn fwy tebygol o ymadael â’u cyrsiau neu o hepgor y cyfle i symud ymlaen i gyrsiau uwch.
  • Maent hefyd yn fwy tebygol o ddilyn llwybrau cymhleth oddi mewn i addysg uwch gan gynnwys gohirio cofrestru, blynyddoedd allan a newid, ail-wneud neu ailgychwyn eu cyrsiau am resymau anacademaidd.

Y ffactorau y tu ôl i’r anawsterau hyn yw:

  • Bod yn anghyfarwydd ag addysg uwch – gall hyn arwain pobl o gefndiroedd anhraddodiadol i ymgofrestru ar gyrsiau anaddas. Mewn llawer iawn o achosion, nhw fydd y rhai cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i’r brifysgol
  • Diffyg sicrwydd ariannol – mae hyn yn cyfyngu ar ddewis y cyrsiau a hyd yr amser y mae pobl yn fodlon aros mewn addysg uwch cyn bod rhaid iddynt gael hyd i swydd
  • Pryderon am ddyled – yn sgil benthyciadau myfyrwyr a benthyciadau eraill. Ymddengys fod pryderon am ddyled yn fwy o rwystr i fyfyrwyr sy’n aros mewn addysg uwch na’r symiau maent wedi’u benthyca mewn gwirionedd. Gall pryder am ddyled gael ei ategu gan ddiffyg hyder am lwyddiant academaidd a’r posibiliadau o gael swydd sy’n talu’n ddigonol.
  • Mae costau – byw oddi cartref neu gostau cymudo’n cyfyngu ar ddewis y sefydliadau y byddai rhai myfyrwyr yn gallu eu mynychu
  • Arwahaniad a morâl isel – ymhlith myfyrwyr sy’n teimlo eu bod mewn gwrthdaro diwylliannol rhwng bywyd yn y brifysgol a’u cefndiroedd cartref. Weithiau, bydd myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael anhawster wrth ‘ffitio i mewn’. Bydd eraill yn mynd ati’n fwriadol i ddewis cyrsiau ar sail a fyddant yn teimlo allan o’u cynefin ai peidio.

Er bod llawer iawn o’r prif gyflogwyr wedi coleddu’r angen i sicrhau bod eu dulliau recriwtio’n deg i fyfyrwyr anabl neu fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig, ni wneir ymdrech i’r un graddau i ehangu recriwtio o ran dosbarth cymdeithasol. Efallai y bydd dealltwriaeth o’r mecanweithiau gwahaniaethu yn cynyddu’r posibiliadau i’w goresgyn.

Yn ddamcaniaethol, mae systemau gwneud cais safonol a ddefnyddir gan y prif recriwtwyr graddedigion, yn cynnig cyfle cyfartal i bawb. Hefyd, yn ddamcaniaethol, mae gradd 2:1 o brifysgol newydd i fod o’r un safon ag un o Gaergrawnt neu Rydychen. Ar yr un pryd, bydd unrhyw recriwtiwr sy’n wynebu niferoedd mawr o ymgeiswyr yn chwilio am ffyrdd o leihau’r dewis. Un dacteg gyfarwydd yw mynnu lefel benodol o bwyntiau UCAS, sydd fwyaf tebygol o gael eu cyrraedd gan rywun sydd wedi cael addysg uwchradd dda, o bosibl trwy ysgol annibynnol. Dull arall yw targedu prifysgolion dethol (y gall fod gan eu myfyrwyr yr un lefel uchel o bwyntiau UCAS).

Fodd bynnag, mae proffil cyffredinol myfyriwr graddedig yn newid. Yn gynyddol, mae cyflogwyr yn cydnabod y manteision o gael gweithlu amrywiol ac mae busnesau’n sylweddoli bod gweithlu amrywiol yn fwy llwyddiannus os bydd yn adlewyrchu’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Drwy fynd ati i dargedu cwmnïau sy’n dangos eu bod yn awyddus i recriwtio unigolion dawnus beth bynnag bo’u cefndir, byddwch yn sicrhau eich bod yn cael cyfle cyfartal i hyrwyddo’ch sgiliau a’ch priodweddau.

Fodd bynnag, weithiau bydd graddedigion o gefndiroedd cymdeithasol arbennig yn mynegi pryder ynglyn â’r broses recriwtio. Amlinellir rhai o’r materion hyn isod:

  • Bod y broses gyfweld ac, yn fwyaf arbennig, y craffu manwl iawn y mae ymgeiswyr yn mynd drwyddi mewn canolfannau asesu, yn ffafrio’r hunanhyderus. Gwnewch yn siwr y byddwch yn cael digon o ymarfer wrth roi cyflwyniadau, cwrdd â gwahanol bobl a chyfranogi mewn trafodaethau grwp fel eich bod yn teimlo’n gyfforddus mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd.
  • Gall dulliau’r cyflogwyr o ddethol wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn y rheini o gefndiroedd arbennig. Er enghraifft, ffafrio bod ymgeiswyr wedi ymgymryd â gwahanol weithgareddau tramor. Fodd bynnag, os nad ydych wedi cael y cyfle i wneud hyn, mae digon o ffyrdd i atgyfnerthu’ch curriculum viate yn y DU. Yn ymarferol, golyga hyn gael hyd i gyfleoedd trwy brofiad gwaith a gweithgareddau gwirfoddol i feithrin sgiliau rhyngbersonol. Mae paratoi’n drylwyr ar gyfer y farchnad swyddi’n cynnig y gobaith gorau o ran torri trwy’r “nenfwd dosbarth”
  • Mae acenion rhanbarthol cryfion yn peri peth pryder i rai pobl. Fodd bynnag, mae canran y bobl sy’n siarad yn null Ynganiad Derbyniedig erbyn heddiw’n eithriadol fach. Mae acenion rhanbarthol yn dderbyniol, er enghraifft, ym myd y radio a’r teledu. Mae sgiliau cyfathrebu’n bwysig ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi, felly mae cyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â’r gallu i’w mynegi eu hunain yn glir ac yn fanwl gywir.
  • Gwelir rhai proffesiynau i fod yn rhai ‘dosbarth canol’. Mae peth gwirionedd yn y gosodiad yma, er bod llawer iawn o gyrff/sefydliadau sy’n gwerthfawrogi’r manteision o weithlu amrywiol, yn rhoi mwy o bwyslais ar arwyddion o fod â’r sgiliau angenrheidiol i wneud y gwaith.
  • Gall byw gartref tra’n astudio leihau’ch cyfranogaeth mewn gweithgareddau prifysgol. Bydd llawer iawn o gyflogwyr yn chwilio am ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol. Gall y rhain fod yn ffordd dda i gynyddu hunanhyder tra’n datblygu sgiliau dymunol eraill o ran y gallu i gael swyddi.
  • Efallai y bydd rhai cyflogwyr yn ystyried bod y rheini sy’n byw gartref tra’n astudio fel rhai sy’n ‘ofni mentro’. Unwaith eto, gall dewis yn ddoeth o ran lleoliad gwaith a gweithgareddau all-gwricwlwm ddatrys hyn.
  • Os nad oes yr un o’ch teulu wedi mynychu prifysgol neu wedi cael gyrfa arbennig, gall hyn effeithio ar eich dealltwriaeth o’r farchnad swyddi i raddedigion a’ch dyheadau’n gyffredinol. Anfantais ychwanegol yw bod y rhwydweithiau a’r profiad o swyddi i raddedigion sy’n cael eu mwynhau gan bobl o gefndiroedd traddodiadol yn aml yn ddiffygiol

Uchafu’ch Cyfleoedd

  • Ewch i ymweld â Gwasanaeth Gyrfaoedd eich Sefydliad Addysg Uwch – gwnewch hyn yn ystod eich blwyddyn gyntaf i osod allan gynllun gyrfa ac i gael synnwyr o ran cyfeiriad. Penderfynwch beth fedrwch ei wneud â’r hyn sydd gennych i’w gynnig a sut y gellwch ddatblygu a helaethu’ch sgiliau o ran eich gallu i gael swyddi.
  • Profiad Gwaith – ceir sawl ffynhonnell ar gyfer cymorth a chyngor wrth gael hyd i bob math o brofiad gwaith gwahanol, o waith gwirfoddol i leoliadau gwaith blwyddyn cyflogedig tra byddwch yn fyfyriwr o hyd. Peidiwch â chael eich rhwystro rhag ceisio am unrhyw fath o gyfle profiad gwaith – yn ddieithriad bron, bydd profiad gwaith yn ystod eich cwrs yn gysylltiedig â manteision o ran cyflogaeth ar ôl cwblhau’ch astudiaethau.
  • Datblygu’ch rhwydwaith eich hun

Byddwch yn barod i’ch marchnata eich hun yn effeithiol fel y gellwch herio unrhyw stereoteipio negyddol a all fodoli. Dangoswch yn eich cais ac mewn cyfweliadau bod gennych y sgiliau a’ch bod yn frwd ynglyn â’r swydd rydych yn ceisio amdani. Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr graddedigion hefyd yn chwilio am dystiolaeth o amrywiaeth o sgiliau meddal yn ychwanegol at feddu ar radd.

Cael Swydd

  • Dangoswch eich bod yn frwd a’ch bod yn angerddol ynglyn â’r swydd a’r cwmni rydych yn gwneud cais iddynt.
  • Penderfynwch pa alluoedd creiddiol y mae’r corff yn chwilio amdanynt ac wedyn ewch ati i’w perthnasu i’ch addysg a’ch profiad (gwaith a/neu ddiddordebau eraill).
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn eich dangos eich hun yn y goleuni gorau posibl. Dylech ymchwilio pob cais yn drwyadl gan ei gyflwyno’n ofalus. Mae ansawdd yn well na maint.
  • Ceisiwch ddatblygu’r sgiliau y byddai cyflogwyr eu heisiau trwy ennill profiad gwaith (cyflogedig neu wirfoddol) a thrwy ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau.

Gwnewch yn siwr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich gwasanaeth gyrfaoedd yn y brifysgol.

Adnoddau

Nid yw GO Wales yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
ACAS
The Advisory Conciliation and Arbitration Service. Y nod yw gwell cyrff a bywyd gweithiol trwy well cysylltiadau cyflogi.
Pob math o swyddi gwag ar gyfer lleoliadau gwaith ar draws y DU
CRE
Commission for Racial Equality (Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol). Corff anllywodraethol a sefydlwyd i ymdrin â gwahaniaethu ar sail hiliol a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
DTI
Department for Trade and Industry (Yr Adran Diwydiant a Masnach).
Lleoliadau gwaith gyflogedig wyth wythnos yn yr haf yn yr Alban a Lloegr
EOC
Equal Opportunities Commission (Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal). Y brif asiantaeth sy’n gweithio i ddileu gwahaniaethu ar sail rhyw.
GO Wales
Mae lleoliad gwaith a rhagflas ar waith yn agored i bob myfyriwr a myfyriwr graddedig beth bynnag bo’u hoedran neu’u hanabledd.
Prospects
Gwybodaeth am amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â gyrfaoedd
Uned Gydraddoldeb Hiliol
Y prif adran y llywodraeth ar gyfer materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb hiliol.
TIGER
Tailored Interactive Guidance on Employment Rights. Wedi’i gynllunio i ddarparu arweiniad hawdd ei ddefnyddio trwy wahanol agweddau ar gyfraith gyflogi’r DU.

Rhoi nod tudalen gyda: