Testun yn unig

Dysgu o Brofiad

Bydd cyflogwyr yn gwerthfawrogi'r ffaith bod gennych gyfnod o brofiad gwaith o safon ar eich CV. Bydd ganddo hyd yn oed fwy o effaith a manteision os gallwch gyfleu'r hyn rydych wedi'i ddysgu o'ch profiad gwaith.

I gyfleu hyn i gyflogwr mae rhaid i chi fod yn glir am yn union beth rydych wedi'i ddysgu. Mae hyn yn fwy anodd nag y mae'n swnio ar y dechrau; pa mor aml rydych chi wedi eistedd yn ôl a meddwl o ddifrif am eich cyflawniadau a manylu pob peth rydych wedi'i ddysgu yn ystod eich gradd? Mae'r un peth yn wir am eich profiad gwaith GO Wales - bydd 10 wythnos yn hedfan felly mae rhaid i chi gofnodi'r hyn rydych wedi'i gyflawni fel y gallwch ei ddefnyddio nes ymlaen.

Rhoi nod tudalen gyda: