Ymddygiad rhyngbersonol
Beth yw Sgiliau Rhyngbersonol?
- Set o ymddygiadau sy'n eich galluogi i gyfathrebu'n effeithiol ac yn ddiamwys mewn sefyllfa wyneb yn wyneb
- Gellid meddwl amdanynt hefyd fel ymddygiadau sy'n cynorthwyo cynnydd tuag at gyflawni amcan
Nod datblygu sgiliau rhyngbersonol felly yw'ch helpu i gael y tri chynhwysyn i gyd i gydweithio'n effeithiol. Darperir y cyd-destun (ffurfiol neu anffurfiol) gan sefyllfaoedd wyneb yn wyneb yn, diffinnir y diben dymunadwy gan amcanion, a modd ei gyflawni yw ymddygiadau. Mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn wyneb yn wyneb, megis galwad ffôn neu lythyr, yr hyn rydych yn ei ddweud neu'i ysgrifennu sy'n cynrychioli'ch ymddygiad.
Hanfodion
Mae chwe sgil ryngbersonol sy'n ffurfio'r broses sy'n berthnasol i bob sefyllfa:
- Dadansoddi'r sefyllfa
- Sicrhau amcan realistaidd
- Dewis ffyrdd priodol o ymddwyn
- Rheoli'ch ymddygiad
- Dylanwadu ar ymddygiad pobl eraill
- Monitro ein hymddygiad ein hun ac ymddygiad eraill
Mae angen cymhwyso'r sgiliau unigol yn briodol. Er enghraifft, os ydych yn:
- trafod sut i ddatrys problem â rhywun y mae ganddynt fwy o brofiad na chi, yna mae gwrando'n bwysig
- gwybod llawer mwy am yr hyn y mae angen ei wneud i ddatrys problem na rhywun arall, yna mae cyfathrebu'n clir a phrofi dealltwriaeth y person arall yn flaenoriaethau uwch.
Addaster Sgiliau Rhyngbersonol
Mae'r broses sgiliau rhyngbersonol a ddisgrifir uchod yn addas ar gyfer pob sefyllfa'n ymwneud â phobl, yn y ffyrdd canlynol:
- Mae dadansoddi'r sefyllfa yn ein helpu i osod amcanion realistaidd
- Mae sicrhau amcanion, yn ei dro, yn rhoi'r cyd-destun ar gyfer gwneud dewisiadau ynghylch sut orau i ymddwyn
- Trwy fod yn ymwybodol o'n hymddygiad ein hun wrth weithio tuag at gyflawni amcanion rydym yn fwy tebygol o ddylanwadu ar ymddygiad pobl eraill
- Bydd monitro cyson yn rhoi'r adborth y mae arnom ei angen i wneud yr addasiadau sy'n ddibynnol ar y sefyllfa
Buddion gwella Sgiliau Rhyngbersonol
Wrth gwrs, bydd gennych eisoes lawer o sgiliau'n ymwneud â phobl a ddysgwyd gennych trwy brofiad. Fodd bynnag, rhai o fuddion gwell sgiliau rhyngbersonol yw y byddwch yn well mewn:
- Asessu a deall yn gyflym sefyllfaoedd wyneb yn wyneb
- Gosod amcanion penodol a realistaidd ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb â phobl - byddwch yn elwa o fod yn glir am yr hyn rydych yn anelu ato
- Dewis a defnyddio ymddygiadau sy'n cyd-fynd â'r amgylchiadau ac sy'n briodol i'r amcan - ac felly yn elwa oherwydd bod gennych modd haws, ac yn fwy dymunol, o gyflawni'ch amcan
- Bod yn ymwybodol o ymddygiad pobl eraill a dylanwadu arno - yn dylanwadu ar eraill trwy'ch ymddygiad eich hun
Dyma rai yn unig o fuddion posibl gwell sgiliau rhyngbersonol.
Rhoi nod tudalen gyda: