Testun yn unig

Rheoli Prosiectau

Beth yw prosiect?

Mae prosiect yn gyfres dros dro o dasgau a chanddi ddechrau a diwedd pendant ac ymgymerir â'r gyfres hyn er mwyn creu cynnyrch unigryw neu wasanaeth.

Beth yw rheoli prosiectau?

Y broses o gyfarwyddo a chyd-drefnu adnoddau amrywiol trwy oes prosiect er mwyn bodloni anghenion a disgwyliadau rhanddeiliaid neu fynd y tu hwnt iddynt yw rheoli prosiectau.

Mynd i'r afael â'ch prosiect lleoliad

Gellir ystyried rheoli prosiectau'n broses gylchol bedwar cam:

  1. Egluro nodau ac amcanion eich prosiect

    1. Cadarnhewch yn bendant yr hyn mae'ch cyflogwr yn disgwyl gennych chi a chan y prosiect
    2. Sut mae'ch cyflogwr eisiau i'ch canlyniadau gael eu cyflwyno? Yn ystadegol? Fel argymhellion? Gan gynnwys dadansoddiad cost? Wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig neu ar lafar?
    3. Lluniwch restr o amcanion, gan gynnwys yr elfennau wedi'u cytuno, manyleb yr elfennau hyn a phryd maent i fod i gael eu cynnwys. Defnyddiwch hyn i gadarnhau'ch dealltwriaeth o'r hyn a ddisgwylir gennych gyda'ch cyflogwr.
  2. Nodi'r camau cysylltiedig

    1. Pa adnoddau a gwybodaeth mae eu hangen arnoch?
    2. Sut y cewch chi'r wybodaeth?
    3. Nodwch y tasgau sy'n gysylltiedig â chyflawni'r nod. Gofynnwch y cwestiynau i chi'ch hun yn gyson: sut, beth, pryd? Bydd hyn yn eich helpu i aros ar y trywydd iawn.
  3. Cynllunio ac amseru'ch prosiect

    1. Ym mha drefn y dylid cwblhau'r tasgau?
    2. Faint o amser bydd pob un yn ei gymryd?
    3. Beth yw'r terfynau amser dan sylw?
    4. A oes llwybr critigol, h.y. a oes rhaid cwblhau un cyn dechrau ar un arall?
  4. Monitro a gwerthuso'ch prosiect

    1. Monitrwch eich cynnydd yn rheolaidd trwy ddefnyddio'r dyddiadur adfyfyriol a gwirio bod eich perfformiad yn bodloni'r mesurau rydych wedi'u gosod
    2. Os ceir rhwystrau, gwnewch yn siwr eich bod yn eu codi gyda'ch rheolwr llinell yn syth fel y gallwch ystyried y goblygiadau
    3. Adolygwch gyda'ch rheolwr llinell ar ôl cyfnodau gosod
    4. Penderfynwch a oes angen newid cynllun

Mae'r broses rheoli prosiectau yn rhoi'r strwythur, ffocws a threfn angenrheidiol er mwyn cwblhau unrhyw brosiect yn llwyddiannus.

Pam defnyddio rheoli prosiectau?

  • Cyd-ddealltwriaeth o nodau'r prosiect
  • Ymwybyddiaeth o'r cynnydd mewn gweithgareddau cyfochrog ac o'r problemau'n gysylltiedig â chyd-drefnu gweithgareddau
  • Cynllunio realistaidd o anghenion pob grwp ac unigolyn sy'n gweithio ar y prosiect
  • Deall perthynas tasgau unigol â'i gilydd ac i'r prosiect yn gyffredinol
  • Arwyddion rhybudd cynnar o broblemau posibl ac oediadau yn y prosiect
  • Mwy o amlygrwydd i'r rheolwyr, gan gynnwys cyfeirio sylw at anghenion disymwth y prosiect
  • Diweddaru pawb sy'n gyfrannog o ran statws prosiect

Beth os dechreua pethau fynd o chwith?

Yn gyntaf, peidiwch â'i anwybyddu. Os gallwch, ceisiwch ei ddatrys yn fewnol gyda'r Cwmni Cynnal Lleoliad. Mae'n bwysig i chi ddweud wrth eich rheolwr neu oruchwyliwr am unrhyw broblemau rydych yn eu cael a rhoi gwybod i'ch Trefnydd Lleoliad beth sy'n digwydd a chael eu cyngor.

Dyma enghreifftiau o sut i reoli rhai sefyllfaoedd.

NODI PROBLEM

CAM GWEITHREDU

Mae'r staff yn y cwmni cynnal lleoliad yn anghydweithredol

Sicrhewch fod eich goruchwyliwr yn eich cyflwyno'n iawn ar ddechrau'r lleoliad. Eglurwch eich anghenion i'r staff a chodi unrhyw faterion gyda'ch rheolwr llinell os oes angen.

Nid yw'r adnoddau anghenrheidiol yn eu lle/ar gael

Nodwch yr hyn mae arnoch ei angen a phryd mae ei angen. Siaradwch â'ch rheolwr, eglurwch y rhesymeg a'r goblygiadau o ran y canlyniadau os na chewch yr hyn mae arnoch ei angen.

Mae'r amserlen yn llithro

Nodwch beth yw'r achosion a thrafodwch nhw â'ch goruchwyliwr. Ystyriwch beth a allai ddod â'r prosiect yn ôl i'r amserlen iawn, e.e. adnoddau ychwanegol.

Cofiwch y bydd monitro cynnydd yn rheolaidd yn eich helpu i gwrdd â therfynau amser a dywedwch wrth eich rheolwr llinell am eich cynnydd. Peidiwch ag anwybyddu problemau neu efallai bydd gan eich rheolwr llinell ddisgwyliadau afrealistaidd o'r hyn y gallwch ei gyflawni yn yr amser sydd gennych.

Rhoi nod tudalen gyda: