Testun yn unig

Ysgrifennu adroddiadau

Beth yw Adroddiad?

Mae adroddiad yn ddogfen sy'n diffinio pwnc neu broblem, ac yn casglu gwybodaeth a ffeithiau perthnasol er mwyn eu cyflwyno mor gyflawn a chywir ag sy'n bosibl. Felly mae rhaid i adroddiad fod:

  • Yn gryno
  • Yn ddealladwy
  • Yn fanwl gywir
  • Wedi'i strwythuro'n rhesymegol
  • Yn ddisgrifiadol
  • Wedi'i anelu at y gynulleidfa

Ysgrifennu'r adroddaid - Strwythur

Tudalen deitl
Yn amlygu thema ganolog yr adroddiad, ac yn cynnwys y teitl, enw'r awdur, y dyddiad, ac enw'r unigolyn neu'r sefydliad a gomisiynodd yr adroddiad (os oes angen).
Diolchiadau (dewisol)
Yn cyfleu diolchiadau i'r rheiny sydd wedi helpu'r awdur wrth baratoi'r adroddiad.
Cynnwys
Yn hanfodol os bydd yr adroddiad yn fwy na thair tudalen. Yn rhestru prif adrannau ac is-adrannau'r adroddiad yn eu trefn. Dylai'r penawdau fod yr un peth â'r rheiny a ddefnyddir yn yr adroddiad, ynghyd â rhif y dudalen.
Crynodeb (dewisol, ac weithiau dan y teitl Crynodeb Gweithredol)
Bydd hwn yn ddefnyddiol os bydd yr adroddiad yn hir, ac mae'n rhoi amlinelliad cryno o'r adroddiad i'r darllenydd. Ni ddylai'r crynodeb fod yn fwy na thudalen.
Cyflwyniad

Mae hwn yn gosod y cyd-destun, a dylai gynnwys y canlynol:

  • Pam yr ysgrifennwyd yr adroddiad/ei gefndir?
  • Cylch gwaith - yn pennu cwmpas neu baramedrau'r adroddiad, a'r hyn rydych yn ceisio ei wneud. (amcan, diben, a defnydd)
  • Y dull ymchwilio.
  • Yr adnoddau oedd ar gael.
  • Y ffynonellau a ddefnyddiwyd.
  • Cyfyngiadau.
  • Strwythur yr adroddiad.
Prif destun
Dyma brif sylwedd yr adroddiad yn manylu ar y prif ganfyddiadau. Mae'n cynnwys data rydych wedi'i gasglu, a'r hyn rydych wedi'i ddarganfod ohono. Ni ddylai gynnwys barnau, casgliadau nac argymhellion. Dyma adran hiraf yr adroddiad, a gall gynnwys y nifer fwyaf o is-adrannau.
Casgliadau
Dylai hyn gysylltu'r cylch gwaith (yr hyn roeddech yn ceisio'i wneud) â'r canfyddiadau er mwyn asesu'r ffeithiau. Mae'n tynnu prif bwyntiau'r adroddiad at ei gilydd, yn cyflwyno trosolwg, ac yn edrych ar ganlyniadau yn y dyfodol. NI ddylai data NEWYDD godi yma. Gall casgliad gynnwys argymhellion os codant y rheiny o'r casgliad.
Argymhellion
Dylai'r rhain ddilyn yn rhesymegol o'r casgliadau, a dylent fod yn benodol, yn fesuradwy ac yn gyraeddadwy. Dylent gynnig sut y gellid gwella'r sefyllfa/broblem trwy ddatgan y cam gweithredu i'w gymryd. Yn ddelfrydol dylai argymhellion gael eu rhifo.
Atodiadau
Yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol nad oes ei hangen ar gyfer prif gorff yr adroddiad.

Rhoi nod tudalen gyda: