Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Dylunio Graffig - Y Canolbarth
Cafodd Cate Jones ei chyflogi gan Brecon Coachworks i greu deunydd marchnata ar gyfer math newydd o fws mini. Roedd hyn yn golygu creu amrywiaeth o ddeunydd, o nwyddau i ddatganiadau i’r wasg, gyda’r cyfan yn cyfrannu at lansio’r bws mini.
Cynorthwy-ydd Ymchwil a Swyddog Cymorth - Y De-ddwyrain
Gwnaeth Heledd nifer o gysylltiadau gwerthfawr ledled y ward a chasglodd lawer o wybodaeth bwysig ar gyfer y prosiect. Roedd y manteision i’r prosiect yn cynnwys hyrwyddo a chodi proffil yn y gymuned.
Dylunio Graffig - Y De-ddwyrain
Dysgodd Michael am brosesau dylunio o’r syniad cychwynnol i gwblhau’r prosiect gan ennill profiad o greu ffeiliau yn barod i’w hargraffu. Datblygodd amrywiol sgiliau a chreodd gryn argraff ar ei gyflogwr gan arwain at gael cynnig swydd lawn amser gyda’r cwmni.
Ymchwilydd cynhyrchu fideo - Y De-ddwyrain
Ar ôl chwilio am waith ffilm yn y cyfryngau am dros flwyddyn roedd Kane Hicking a Tom Fide yn teimlo nad oedden nhw’n mynd i’r unlle. Fodd bynnag, wrth chwilio gwelson nhw raglen a lleoliad GO Wales a fyddai’n rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio’u sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol.
Datblygwr y we - Y De-orllewin
Yn ystod ei leoliad 10 wythnos, datblygodd Stephen system docynnau ar-lein a roddodd ddealltwriaeth effeithiol o e-fasnach iddo.
Peiriannydd ymchwil a datblygu - Y Canolbarth
Datblygodd Emma amrywiaeth o gynhyrchion ar gyfer tîm Beicio Olympaidd Awstralia.
Dadansoddwr ymddygiad - Y De-ddwyrain
Gweithiodd Romani gyda phlant awtistig er mwyn deall eu hymddygiad a lluniodd adroddiad gwerthfawr o ganlyniad i hynny.
Cadwraethwr Natur - Y Canolbarth
Bu’r lleoliad yn gymorth i Christina wella’i gwybodaeth am gadwraeth natur a’i galluogi i ganolbwyntio ar gyfeiriad i’w gyrfa.
Peirianneg Chwaraeon Modur - Y Canolbarth
Cynorthwyodd y lleoliad hwn i ddatblygu cydosodiad hongiad ôl.
Gweithiwr Prosiect Ieuenctid - Y De-orllewin
Prosiect gwaith ieuenctid i gynorthwyo pobl ifanc yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Rhoi nod tudalen gyda: