Cwmni cyfrifwyr yw HR Harris & Partners sydd wedi'i sefydlu ers dros ddeng mlynedd ar hugain.
I roi profiad gwaith i unigolyn graddedig mewn practis cyfrifeg a chael cymorth gyda phob agwedd ar y busnes.
Bu'r busnes yn elwa ar sgiliau newydd a safbwynt ffres a llwyddodd Assiya i ddatblygu ei sgiliau masnachol
“Rhoddodd y lleoliad gipolwg i mi o swyddfa gyfrifeg. Rwyf wedi dysgu llawer am weithdrefnau, materion methdaliad a gweinyddiaeth reoli. Rwyf hefyd wedi dysgu pwysigrwydd sgiliau fel cywirdeb a phrydlondeb - sgiliau sy'n allweddol mewn cyfrifeg.”
“Un o fy amcanion oedd dysgu sut i fantoli cyfrifon banc; llwyddais i wneud hyn, yn ogystal â rheoli prosiect, ennill sgiliau cyfathrebu, cael ymwybyddiaeth fasnachol a dysgu sut i ddatrys problemau.”
“Rwy'n gwneud Cymhwyster Datblygiad Proffesiynol City and Guilds ochr yn ochr â'r lleoliad. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth buddiol tu hwnt ac mae wedi galluogi i mi edrych o ddifrif ar yr hyn rwyf wedi ei gyflawni yn HR Harris & Partners.”
“Mae fy agwedd tuag at waith wedi newid rhywfaint. Gwelais fanteision gweithio mewn menter fach, megis awyrgylch gwaith cyfeillgar dros ben lle ceir digonedd o gefnogaeth a chyngor.”
Hwn oedd y lleoliad gwaith cyntaf i'r cwmni ei gynnal ac rodden nhw'n hapus iawn gyda'r canlyniad. Meddai Mr Muxworthy, y Rheolwr Gyfarwyddwr:
“Mae Assiya'n weithgar iawn. Mae'n dysgu'n gyflym ac mae bob amser yn awyddus i gael mwy o waith. Mae Assiya wedi bod yn gweithio ar ei phen ei hunan ac mae wedi cynhyrchu gwaith safonol iawn.”
“Mae'r lleoliad wedi bod yn gyfle gwerthfawr i ni allu cael sgiliau newydd yn y sefydliad. Mae hyder Assiya yn ei gallu ei hunan wedi cynyddu ac rwy'n ffyddiog ei bod hi wedi elwa o'r profiad. Rwy'n siŵr ei bod wedi ennill gwybodaeth am agweddau ar gyfrifeg a methdaliad.”
Rhoi nod tudalen gyda: