Mae Accent Press yn gwmni cyhoeddi dynamig o Sir Benfro a sefydlwyd gan Hazel Cushion yn 2003.
Penderfynodd y cwmni gynnig cyfnod blas ar waith i Victoria Kirwan-Taylor ym maes llenyddiaeth plant a menywod yn y lle cyntaf. Roedd y cyfnod hwn yn gymaint o lwyddiant nes i’r cwmni gynnig lleoliad gwaith i Victoria fel Golygydd Cynorthwyol.
Prosiect Victoria oedd golygu, cynhyrchu, marchnata a chydgysylltu casgliad o straeon byrion. Aeth £1 o bob copi a werthwyd i elusen Cancer Research UK. Nid oedd Victoria wedi gweithio fel golygydd o’r blaen, felly roedd y profiad hwn yn un newydd a chyffrous iddi.
Dyma sylwadau Victoria ar y lleoliad gwaith:
“Roedd fy nghyfrifoldebau’n cynnwys prawf ddarllen, cysodi, rheoli cysylltiadau cyhoeddus a threfnu digwyddiadau llofnodi llyfrau. Fe ges i gyfle i ddysgu am yr holl broses o olygu llyfr, ac roedd y cyfnod o ddefnydd mawr i Hazel am iddi fy nghyflogi am dri mis arall!”
“Llwyddodd y llyfr y bues i’n gweithio arno, ‘Sexy Beach Shorts’, i gyrraedd Deg Uchaf y Llyfrwerthwyr ac i gael llawer o sylw yn y cyfryngau, gan gynnwys papurau newydd fel yr Independent, y Guardian, y Sunday Telegraph a’r Daily Mail.”
“Rwy’n hynod o falch o gael fy nghydnabod fel Golygydd Cynorthwyol y llyfr ac o gael y cyfle i weithio ar brosiect sydd wedi rhoi llawer o brofiad a gwybodaeth am y byd cyhoeddi i mi.”
Rhoi nod tudalen gyda: