Mae stiwdio ffasiynol cwmni Frocked de la Vallière ar Ynys Môn yn cyfuno sgiliau, brwdfrydedd, talentau ac ysbrydoliaeth amrywiol ei dîm dethol i greu casgliadau ar gyfer y farchnad ffasiwn ryngwladol.
Sefydlwyd y busnes dros ugain mis yn ôl gan Tracey Vallière-Evans, y Gyfarwyddwraig Reoli a Chreadigol, ac mae wedi mynd o nerth i nerth trwy ddatblygu tîm llwyddiannus o staff graddedig talentog trwy raglen lleoliad gwaith GO Wales.
Cyflogodd y cwmni Hannah Brett, a raddiodd mewn Bioleg Môr ac Eigioneg o Brifysgol Cymru Bangor, i dorri patrymau a chynorthwyo i ddethol eitemau ar gyfer sioe ffasiwn yn Llundain.
Meddai Tracey Vallière-Evans:
“Er bod gradd Hannah yn hollol amherthnasol i’r byd ffasiwn, roeddwn i’n gallu gweld bod ganddi botensial mawr i wneud gwaith torri patrymau. Yn ystod y lleoliad fe lwyddodd i ddatblygu ei sgiliau a’i gwaith ffasiwn yn y stiwdio yn sylweddol, ac roedd hi’n deall pwysigrwydd amcan ein brand.”
“Cynorthwyodd y lleoliad ein gwaith o ddethol eitemau ar gyfer sioe ffasiwn yn Llundain, gan lwyddo i godi ein proffil yn sylweddol a’n galluogi i gael sylw gan y cyfryngau (gan gynnwys BBC ar-lein). Byddai sicrhau cyhoeddusrwydd o’r fath wedi costio’n ddrud i ni fel arall.”
“Mae hyn yn profi nad oes rhaid i raddedigion fod â gradd benodol; mae ganddyn nhw amrywiaeth eang o sgiliau sy’n addas ar gyfer datblygu syniadau newydd ac arloesol. Mae Hannah wedi dod yn aelod hanfodol o dîm Frocked.”
“Er fy mod wedi ymgymryd â lleoliad GO Wales mewn maes gwahanol i’m pwnc gradd, mae’r cyfnod wedi fy ngalluogi i ddechrau gyrfa yn y byd ffasiwn. Mae llawer o’r sgiliau a enillais ar fy nghwrs gradd wedi bod yn ddefnyddiol yn fy ngwaith i Frocked, gan gynnwys rheoli amser, gweithio i derfynau amser a disgyblaeth dechnegol.”
“Doeddwn i ddim yn siwr a fyddwn i’n gallu torri patrymau, ond dwi’n dysgu trwy’r amser ac yn mwynhau fy hun yn fawr. Dwi wrth fy modd bod y lleoliad wedi fy ngalluogi i hyfforddi a gweithio ar yr un pryd!”
Rhoi nod tudalen gyda: