Testun yn unig
Oliver Powell

Astudiaethau Achos GO Wales

Dylunio Graffeg - Y De-orllewin

Sefydliad
Canolfan Dreftadaeth Gŵyr
Prosiect
Dylunio Graffeg
Ymgeisydd
Oliver Powell (BA Dylunio Graffeg/Amlgyfrwng)

Amgueddfa bywyd gwledig ac atyniad i ymwelwyr yw Canolfan Dreftadaeth Gŵyr sydd wedi'i seilio o gwmpas melin ddŵr o'r 12fed ganrif sy'n cael ei defnyddio hyd heddiw.

Amcan y Prosiect

Cyflogodd y ganolfan Oliver Powell fel dylunydd graffeg i gynnal yr adran yn ei dyddiau cynnar ac mae bellach yn fusnes ar wahân (Parkmill Design and Print Studios).

Canlyniad y Prosiect

Llyfryn Gŵyr wedi'i ddylunio gan Oliver

Mae Oliver yn rheoli rhan fawr o'r busnes erbyn hyn ac wedi cyflawni'r holl amcanion a osodwyd iddo.

“Roedd y lleoliad yn llwyddiannus iawn ac roeddwn i'n ddigon lwcus i gael cynnig y swydd yn llawn amser ar ddiwedd fy lleoliad y llynedd. Ar ôl y Nadolig sefydlwyd yr adran yr oeddwn i'n ei chynnal yn fusnes ei hun felly roeddwn i'n lwcus iawn i fod yn rhan o'r holl fenter.”

“Rwyf wedi bod yn fodlon ar y cyfan gyda ffrwyth fy holl lafur. Mae'n rhaid i mi ddweud nad oedd y cyfan yn hawdd, ac imi wneud camgymeriadau, ond llwyddais i ddysgu o'r profiad. ”

“Roedd fy nghyflawniadau eleni'n cynnwys cynnig i ddylunio Pamffled Gŵyl Gerdded y Gŵyr. Roedd hon yn dasg anodd i ddechrau i ddim ond un person ei gwneud (o fewn y terfyn amser), ond talodd ar ei chanfed wrth i ni ddenu cleientiaid newydd a chael ein hargymell i eraill hefyd.”

“Mae fy sgiliau technegol a chymdeithasol yn datblygu'n barhaus.. Rwyf wedi dod yn fwy hyderus yn y flwyddyn ddiwethaf, a bellach mae gennyf wybodaeth fwy eang am ddylunio ac argraffu'n gyffredinol gyda'r hyder i ymgymryd â phrosiectau mwy.”

“Rwyf hyd yn oed wedi ennill cymhwyster iechyd a hylendid, tystysgrif Cynllun Croeso, wedi'm hyfforddi i ddefnyddio'r til, wedi mynychu seminarau ar y cyfryngau cymdeithasol - felly mae fy CV wedi datblygu dipyn yn y flwyddyn ddiwethaf.”

Meddai Mike Davies, perchennog y stiwdio argraffu:

“Rwy'n credu bod cynllun GO Wales yn rhoi'r cyfle i raddedigion gael blas ar y byd gwaith. Mae gweithio fel dylunydd yn golygu gorfod dehongli meddyliau pobl sy'n gallu bod yn dipyn o dasg, ond mae Oliver yn wych gyda phobl ac wedi llwyddo i wneud hyn yn dda iawn.”

“Mae rhywfaint o'r gwaith y mae Oliver wedi'i gynhyrchu wedi bod yn hyfryd ac mae'n cleientiaid wedi bod yn hapus iawn. Mae bellach yn rheoli'r cwmni ac mae gennyf bob ffydd ynddo i wneud y gwaith. Heb gynllun GO Wales go brin y byddai Oliver yn rheoli cwmni.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: