Mae Brecon Coachworks Cyf yn cyflenwi cerbydau wedi'u haddasu i sefydliadau cyhoeddus a phreifat amrywiol (yn cynnwys ysgolion, colegau, prifysgolion a grwpiau anabledd) yn ogystal â gwasanaethu cerbydau ar ôl eu gwerthu a chynnig amrywiaeth o gynhyrchion symudedd. Prif fusnes y cwmni, serch hynny, yw trawsnewid cerbydau newydd yn fysiau mini, ambiwlansys a thacsis o ansawdd uchel.
Cafodd Cate Jones ei chyflogi gan Brecon Coachworks i greu deunydd marchnata ar gyfer math newydd o fws mini. Roedd hyn yn golygu creu amrywiaeth o ddeunydd, o nwyddau i ddatganiadau i'r wasg, gyda'r cyfan yn cyfrannu at lansio'r bws mini. Cafodd ei chyflogi hefyd i helpu i gydgysylltu gwaith Cysylltiadau Cyhoeddus y lansiad.
Diolch i waith Cate, llwyddodd Brecon Coachworks i drefnu lansiad proffil uchel o'r cerbyd newydd mewn dull hynod o broffesiynol a oedd y tu hwnt i ddisgwyliadau gweithwyr y cwmni a'r gwahoddedigion. Mae'r lansiad wedi arwain at lawer o ymholiadau am y cerbyd newydd.
“Roeddwn i'n gallu defnyddio a datblygu sgiliau a ddysgais ar fy nghwrs gradd gydol y lleoliad. Mae hyn wedi codi proffil fy ngwaith ac wedi bod yn bont rhwng addysg a chyflogaeth llawn amser.”
“Ar ôl gorffen fy ngradd, mae lleoliad GO Wales wedi fy helpu i ddechrau ar yrfa ym maes Dylunio Graffig. Rwyf wedi mwynhau'r profiad hwn yn arw, a byddaf yn gallu dangos i gyflogwyr fy mod i'n gallu gwneud cymaint mwy na dylunio yn unig.”
Mae Will Krawszik, Peiriannydd Ymchwil a Datblygu, yn credu bod cyfraniad Cate wedi bod yn allweddol i lwyddiant y lansiad:
“Roeddem yn awyddus i greu cynnyrch newydd a fyddai'n cael effaith fawr ar y farchnad ac wedi bod yn gweithio llawer ar y prosiect. Roedd rhaid i'r lansiad a'r deunydd marchnata adlewyrchu ein gwaith caled a denu'r gynulleidfa ehangach. Penderfynwyd defnyddio cynllun GO Wales gan ei fod yn lleihau costau yn aruthrol ac yn ein galluogi i reoli canlyniadau'r prosiect trwy weithio gyda Cate o ddydd i ddydd.”
Rhoi nod tudalen gyda: