Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Cynorthwy-ydd Labordy - Y De-ddwyrain

Sefydliad
Biotal Technologies
Prosiect
Cynorthwy-ydd Labordy
Ymgeisydd
Jenna Bestwick (Gwyddorau Biolegol Cymhwysol)

Amcan y Prosiect

Mae Biotal Technologies yn datblygu cynhyrchion microbaidd a gwrthficrobaidd ac roedd y cwmni'n chwilio am unigolyn graddedig i weithio mewn amryw o feysydd yn y busnes, yn cynnwys:

  • Twf bacteria cynnyrch
  • Rhifo microbaidd
  • Paratoi Cyfryngau
  • Technegau aseptig
  • Mesuriadau sefydlogrwydd
  • Cynnal profion ar ddiheintyddion

Canlyniad y Prosiect

“Fy amcanion ar ddechrau'r lleoliad gwaith oedd dysgu mwy o dechnegau microbioleg a'r ffordd mae busnesau bach yn gweithredu. Rwy nawr yn llawer mwy hyderus yn gweithio mewn amgylchedd labordy ac rwy hefyd wedi cael cyfle i weld ochr farchnata'r busnes.”

“Yn ystod y lleoliad gwaith roedd yna amgylchedd cyfeillgar iawn ac roeddwn i'n teimlo'n gartrefol yno mewn dim amser. Dysgais lawer gan y profiad gan ddatblygu technegau mewn labordy doeddwn heb eu dysgu yn y brifysgol. Gwnaeth y profiad roi cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau rhyngbersonol a'm gwneud yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd rheoli amser yn y gweithle.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: