Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Treialon Labordai - Y De-ddwyrain

Sefydliad
i2l Research
Prosiect
Treialon Labordai
Ymgeisydd
Lucy Morapedi (Anrhydedd Gwyddorau Biomeddygol)

Mae Insect Investigations yn gwmni o Gaerdydd sy’n ymwneud â phrofi a datblygu yn y diwydiant rheoli plâu.

Amcan y Prosiect

Cyflogodd y cwmni Lucy Morapedi, myfyrwraig israddedig ail flwyddyn Gwyddorau Biofeddygol ar gwrs UWIC, fel Cynorthwy-ydd Technegol i helpu gyda’r gwaith o sefydlu a chynnal treialon a chyflawni dyletswyddau cyffredinol yn y labordy.

Derbyniodd Lucy’r lleoliad gwaith yn y gobaith y byddai’n gallu ennill profiad ymarferol mewn sector sy’n berthnasol iawn i’w gradd ac ennill mwy o wybodaeth er mwyn ei helpu yn ei blwyddyn olaf yn y Brifysgol.

Cyflawnwyd yr holl amcanion, fel mae Lucy yn egluro:

“Nid yn unig y mae’r profiad wedi datblygu fy sgiliau a gwella fy ngobeithion o gael swydd ar ôl i mi raddio, mae hefyd wedi cael effaith ddramatig ar fy uchelgais ar gyfer y dyfodol.”

Canlyniad y Prosiect

Meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Peter McEwen:

“Roedd dylanwad Lucy ar berfformiad y cwmni yn un arwyddocaol. Dyma un o gryfderau cwmni bach - mae pawb yn bwysig. Mae Lucy wedi cyfrannu at lwyddiant y prosiect, sydd, yn y pendraw, yn helpu perfformiad cyffredinol y cwmni.”

“Cyflawnodd Lucy amcanion y cwmni trwy gwblhau tasgau i safon uchel, ac roedd y cwmni ar ei ennill trwy gyflogi unigolyn dymunol, diwyd, defnyddiol a lwyddodd i ysgafnhau’r baich ar aelodau eraill o staff yn ystod cyfnod prysur.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr

Rhoi nod tudalen gyda: