Testun yn unig

Astudiaethau Achos GO Wales

Gweinyddiaeth Gyfreithiol - Y De-orllewin

Sefydliad
Lowless & Lowless
Prosiect
Gweinyddiaeth Gyfreithiol
Ymgeisydd
Leanne Williams (Y Gyfraith)

Mae Lowless & Lowless wedi bod yn ymarfer fel cyfreithwyr yn Sir Benfro ers 1898.

Amcan y Prosiect

Cyflogodd y cwmni Leanne Williams, myfyrwraig israddedig y Gyfraith, i gynorthwyo â dyletswyddau gweinyddol y cwmni a chynorthwyo'r tîm cyfreithiol.

Canlyniad y Prosiect

Enillodd Leanne lawer o wybodaeth ym maes y gyfraith a chynigwyd swydd iddi fel Cynghorydd Cleientiaid Paragyfreithiol.

Dysgodd Leanne lawer iawn o'i phrofiad. Meddai:

“Roedd y lleoliad yn rhoi cyfle i mi weld sut mae cwmni cyfreithiol yn gweithredu o ddydd i ddydd a gallaf ddefnyddio hyn yn fy astudiaethau. Roedd yr holl broses wedi'i threfnu'n dda iawn a gwyddwn yn union beth roedden nhw'n disgwyl gennyf”

“Roeddwn i eisiau dysgu mwy am y gyfraith ar lefel ymarferol. Teimlaf fy mod wedi cyflawni hynny a datblygu fy sgiliau cyfathrebu, datrys problemau, rheoli amser ac ymdopi â newid.”

“Mae'r lleoliad yn sicr wedi cadarnhau fy mod i eisiau dilyn gyrfa gyfreithiol a gweithio fel rhan o dîm. Mae hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod eisiau gweithio gyda chwmni bach a chanolig oherwydd teimlaf fod y berthynas rhwng cyflogwyr a gweithwyr yn llawer mwy effeithiol o ran cyfathrebu.”

Mae Tim Farnfield, Rheolwr y Practis wedi'i blesio'n fawr gyda'r graddedigion a gafodd eu recriwtio drwy GO Wales.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym ni wedi derbyn nifer o raddedigion ar y cynllun lleoliad gwaith. Bron yn ddieithriad, maen nhw wedi bod yn bobl frwdfrydig a galluog sydd wedi rhoi llawer iawn o gymorth i ni dros gyfnod y gwyliau.”

“Maen nhw'n ennill profiad gwerthfawr, ac yn ogystal â'r gwaith maen nhw'n ei wneud i ni, mae'n gyfle i ni eu gweld nhw wrth eu gwaith mewn rhyw fath o gyfweliad estynedig.”

“Mae un o'n myfyrwyr lleoliad gwaith blaenorol wedi bod yn gweithio i ni ers dwy flynedd erbyn hyn, wrth hyfforddi fel cyfreithiwr, ac mae hi'n cymhwyso fis nesaf. Mae Leanne hefyd wedi cael cynnig swydd barhaol gyda ni fel cynghorydd cleientiaid paragyfreithiol, a bydd yn dechrau'i hyfforddiant fel cyfreithiwr yn fuan. Llwyddiant iddi hi, ac i Lowless & Lowless.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: