Cylchgrawn lliwgar a gyhoeddir bob yn ail fis ac sy'n rhoi sylw i Gymru gyfan yw Welsh Country.
Gweithio gyda chysylltiadau hen a newydd a fyddai â diddordeb mewn hyrwyddo'u hunain, eu cynhyrchion neu gwmni yng nghylchgrawn Welsh Country a chynnal cysylltiadau da â darpar gwsmeriaid.
“Dechreuais fy lleoliad gwaith gyda Welsh Country ym mis Mawrth ac mae pethau'n mynd yn wych. Mae'n lle hyfryd i weithio a phawb yn barod i'm helpu i setlo mewn ac arfer â'r swydd. Mae'r holl dîm yn gefnogol iawn ac mae pawb yn awyddus i gydweithio er mwyn cynhyrchu cylchgrawn hynod o lwyddiannus.”
“Fy mhrif swyddogaeth yw cysylltu â busnesau ledled Cymru a allai fod â diddordeb mewn cael cyhoeddusrwydd yn sgil y cylchgrawn a'm cyfrifoldeb i hefyd yw'r erthyglau nodwedd rheolaidd ar Aberhonddu ac ar fwyd.”
“Rwy'n dod tuag at derfyn fy lleoliad gwaith gyda Welsh Country ond rwy'n falch iawn o gael dweud fy mod wedi cael cynnig swydd barhaol gyda nhw. Bydd yn gyfle gwych i mi ddechrau gyrfa lwyddiannus oherwydd gallaf fanteisio ar y profiad o ennill sgiliau sylfaenol gwaith swyddfa (e.e. sgiliau TG, sgiliau cyfathrebu, terfynau amser ac ati), a byddaf hefyd yn elwa ar nodweddion arbennig y cwmni.”
“Rydym ni'n gweithio fel tîm a chaf fy niweddaru'n gyson ar newidiadau o fewn y cwmni na fydd efallai yn effeithio ar fy swyddogaethau i yn uniongyrchol. Mae pob sylw a syniad rwyf wedi eu hawgrymu'n cael eu hystyried o ddifrif a nifer wedi cael eu gweithredu ac er mai teitl fy swydd yw 'Swyddog Gweithredol Hysbysebu a Marchnata', rwy'n cael y rhyddid i weithio ar rannau eraill o'r cylchgrawn.”
Rhoi nod tudalen gyda: