Testun yn unig
parc busnes eco-gyfeillgar

Astudiaethau Achos GO Wales

Ynni Adnewyddadwy - Y Canolbarth

Sefydliad
Dulas Cyf
Prosiect
Ynni Adnewyddadwy
Ymgeisydd
Steve Smith (Ynni a Pherianneg Amgylcheddol)

Mae Dulas Cyf yn gwmni ynni adnewyddol arobryn sy’n cyflogi gweithwyr medrus a phrofiadol i ddylunio a gosod amrywiaeth o dechnolegau ynni adnewyddol, gan gynnwys gwynt, hydro, solar, ac ynni coed bio-màs.

Amcan y Prosiect

Cyflogodd Dulas Steve Smith, a astudiodd Ynni a Pheirianneg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Napier yng Nghaeredin, i weithio ar ddatblygu prosesau ymgynghori ar Adeiladau Carbon Isel ar gyfer technolegau ynni adnewyddol.

Yr amcanion oedd darparu gwasanaeth i benseiri a phrif gontractwyr yn y diwydiant adeiladu er mwyn ymdrin â materion newydd sy’n effeithio ar y diwydiant cyfan.

Mae’r materion hyn yn ymwneud â rheoliadau sy’n gorfodi datblygwyr i greu ynni ar safleoedd datblygiadau newydd. Mae’r gwasanaethau ymgynghori’n helpu datblygwyr a chleientiaid eraill i ddeall pa rai o’r technolegau microgynhyrchu ynni adnewyddol sy’n addas ar gyfer eu prosiectau.

Canlyniad y Rhaglen

Meddai Ian Draisey, y Pennaeth Marchnata:

“Buan iawn yr ymgartrefodd Steve yn y cwmni, ac roedd ganddo’r sgiliau angenrheidiol i’n helpu i ddatblygu meysydd busnes newydd mewn marchnadoedd newydd. Mae’r prosiect wedi bod yn hynod o lwyddiannus, gan greu gwerth £20,000 o fusnes i Dulas yn y chwe mis diwethaf.

“Mae GO Wales yn brosiect gwych ar gyfer busnesau bach am ei fod yn cyfyngu ar y baich gweinyddol ac yn ein hannog i gyflogi graddedigion o’r radd flaenaf.”

Meddai Steve, sydd bellach wedi cael swydd llawn amser gyda Dulas Cyf:

“Trwy gymryd rhan mewn lleoliad gwaith GO Wales, dwi wedi gallu datblygu fy ngwybodaeth am y diwydiant ynni adnewyddol a gwella fy sgiliau personol. Dwi wedi ennill llawer o brofiad yn sgil gweithio i sefydliad bach lle mae pawb yn gefnogol ac yn gweithio fel tîm.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: