Testun yn unig
Prosiect fferm wynt

Astudiaethau Achos GO Wales

Cynorthwy-ydd Prosiect Adnewyddadwy - Y De-orllewin

Sefydliad
Awel Amman Tawe
Prosiect
Cynorthwy-ydd Prosiect Adnewyddadwy
Ymgeisydd
Craig Buchanan Perkins (Astudiaethau Daearyddol ac Amgylcheddol)

Prosiect ynni cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe yw Awel Aman Tawe.

Amcan y Prosiect

Roedd y prosiect yn chwilio am rywun hyddysg ym maes arbed ynni a chynaliadwyedd i hyrwyddo egwyddorion ynni adnewyddadwy a'r cymorth sydd ar gael.

Canlyniad y Prosiect

Mae'r lleoliad gwaith wedi helpu Craig i sylweddoli ei fod eisiau dilyn gyrfa yn y sector amgylchedd/elusennau. Roedd y cwmni wedi cael unigolyn brwdfrydig a medrus oedd wedi cyflawni pob amcan a osodwyd.

“Roedd fy ngwaith gydag Awel Aman Tawe yn ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygiadau ffermydd gwynt. Roedd yn cynnwys ymchwilio trwy ddeunyddiau perthnasol, cynnal ffeil gyswllt ymgyngoreion, a defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i gynhyrchu cyflwyniadau gweledol o ffermydd gwynt.”

“Roedd y lleoliad gwaith yn brofiad gwych. Cefais bob anogaeth i gyflawni tasgau heriol, fel:

  • Defnyddio pecynnau cyfrifiadurol arbenigol
  • Cyfrifoldeb dros waith prosiect fel ffeil gyswllt ymgyngoreion
  • Creu cyflwyniad proffesiynol, gweledol, o'r datblygiadau ffermydd gwynt.

“Mae'r lleoliad gwaith hwn wedi dylanwadu ar fy ngyrfa yn y dyfodol mewn sawl ffordd. Er mai dim ond hyn a hyn o swyddi sydd yn y sector amgylcheddol/elusennol, a'i bod yn sector mor gystadleuol, fe ddangosodd Awel Aman Tawe fod manteision lu o wneud y gwaith hwn.”

“Gan fod gennyf brofiad gwerthfawr o weithio yn y maes hwn bellach, mae gen i fwy o siawns o gael gwaith. Heb os, byddwn yn argymell lleoliad GO Wales i fyfyrwyr a graddedigion eraill. Mae'r profiad wedi rhoi hwb i'm hyder.”

  • Astudiaeth Achos Blaenorol
  • Yn Ôl I'r Rhestr
  • Astudiaeth Achos Nesaf

Rhoi nod tudalen gyda: