Ailddatblygu rhannau o system y we sy'n cael ei datblygu gan BAM ar gyfer undeb y myfyrwyr.
Roedd Stephen yn gyfrifol am ddiweddaru system prynu tocynnau ar-lein yn ystod y lleoliad gwaith 10 wythnos. Llwyddodd i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau yn ystod y profiad ac mae'r cwmni wedi cynnig swydd hirdymor iddo:
“Trwy ymgymryd â'r prosiect hwn cefais gyfle i ddod i ddeall system e-fasnach yn effeithiol ac i ddatblygu fy sgiliau datrys problemau technegol wrth weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol. O ganlyniad i weithio yn The Bam Agency rwyf wedi gallu symud i feysydd gwahanol. Rwy'n teimlo fod The Bam Agency yn buddsoddi ynof i ac yn datblygu fy sgiliau er mwyn hybu fy ngyrfa.”
Mae Lara Baldrian, Rheolwr Adnoddau Dynol yn BAM, yn credu bod Stephen wedi dod yn gaffaeliad i'r cwmni:
“Mae Steve wedi creu argraff fawr arnom ni yn ystod ei leoliad gwaith. Rydym yn teimlo bod ganddo'r sgiliau, wybodaeth a'r awydd i fod yn aelod gwerthfawr, parhaol o adran y we yn dilyn ei leoliad gwaith 10 wythnos. Rydym yn datblygu Steve mewn rhannau eraill o'r adran ar hyn o bryd oherwydd ei sgiliau cyfathrebu gwych ac rydym yn gobeithio y bydd yn parhau i ragori a datblygu yn ei ddyletswyddau. Mae ymgeiswyr GO Wales fel Steve wedi dod yn gaffaeliadau mawr i The Bam Agency a gobeithiwn y bydd ein partneriaeth wych â GO Wales yn parhau.”
Rhoi nod tudalen gyda: