Testun yn unig

Lleoliadau Gwaith gyda GO Wales

Cyfnodau taledig o brofiad gwaith o safon uchel yw Lleoliadau Gwaith. Fel rheol maent yn para tua 10 wythnos ac yn llawn-amser, er bod trefniadau mwy hyblyg ar gael. Profwyd bod lleoliadau'n gwella eich siawns o gael y swydd rydych ei heisiau ar ôl i chi raddio.

Am ychydig wythnosau neu fisoedd mae myfyriwr, neu rywun sydd wedi graddio, yn gweithio mewn busnes neu sefydliad gan ddod ag arbenigedd a phrofiad newydd i'r sefydliad dan sylw.

Pam profiad gwaith?

Mae cyflogwyr am gael gweithwyr cyflogedig profiadol. Trwy gyflogi staff gyda phrofiad, maen nhw'n cymryd llai o risg gan fod yr aelod o staff newydd wedi gweithio yn rhywle arall o'r blaen. Gan y byddan nhw wedi bod mewn addysg llawn amser am lawer o flynyddoedd mae'n debyg, nid yw graddedigion wedi cael y profiad gwerthfawr hwn. Dyma lle rydym ni yn camu i'r adwy – rydym yn annog ac yn galluogi myfyrwyr a graddedigion i gael profiad gwaith perthnasol da o ansawdd.

Ac nid dyna'r cwbl - nid profiad yn unig mae'r myfyrwyr a'r graddedigion yn ei gael ond cyfle i ennill sgiliau a'u gwella. Mae'n bosib trosglwyddo'r sgiliau hyn o swydd i swydd.

Beth yw cyflogadwyedd?

Ym 1998, disgrifiodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain gyflogadwyedd fel:

“Y nodweddion a'r cymwyseddau sydd gan unigolyn i ddiwallu anghenion newidiol cyflogwyr ac felly i helpu i wireddu dyhead a photensial mewn gwaith.”

Mae hyn yn golygu fod cyflogwyr am gael mwy nag unigolyn graddedig gyda gradd dda yn unig. Mewn byd cynyddol gystadleuol, mae cyflogwyr am i'w gweithwyr graddedig feddu ar y sgiliau a fydd yn eu galluogi i fod ar y blaen. Mae GO Wales yn trefnu cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd i fyfyrwyr a graddedigion i'w helpu i gyflawni eu potensial a dod yn weithwyr cyflogedig gwerthfawr.

Mae GO Wales yn trefnu cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd ar gyfer myfyrwyr a graddedigion i'w helpu i gyflawni eu potensial a dod yn weithwyr gwerthfawr.

Rhoi nod tudalen gyda: